News

Cyrhaeddwyd y Fforwm Ieuenctid uchelfannau newydd yn Y Bala!

Aeth 43 aelod o bob cwr o Gymru i Glan-llyn am yr hyn a addawyd i fod yn benwythnos llawn hwyl. Yn fuan daeth dieithriaid yn ffrindiau ar ôl i ni chwarae rhai gemau torri iâ gan gynnwys Bingo a Jockey, Cavalier, Knight.

Ar ôl cinio, roedd hi’n bryd rhannu’n ddau grŵp – byddai un yn taro’r dŵr gydag Adeiladu Rafft, a’r llall yn anelu am uchelfannau’r cwrs High Ropes. Gwaith tîm oedd ei angen I Adeiladu’r Rafft, wrth iddyn nhw geisio adeiladu rafft yn ddigon saff i bawb aros yn sych. Aethon nhw ar Lyn Tegid a diolch byth i’r rafft aros mewn un darn, er nad i bawb o’r ail grŵp llwyddo i aros ar y rafft ac aeth pethau’n wlyb iawn, yn gyflym iawn!

Draw ar y cwrs High Ropes, fe wnaeth yr aelodau raddio’r wal ddringo a gweithio eu ffordd o gwmpas y cwrs. Roedd hi’n amser wedyn i gyrraedd uchelfannau newydd a herio eu dewrder gyda’r naid ffydd 30 troedfedd!

Ar ôl i nerfau pawb setlo a’u dillad wedi sychu, roedd hi’n bryd cael rhai trafodaethau ar rai o bynciau’r Fforwm Ieuenctid. Lluniodd y grwpiau syniadau ar gyfer yr hyn yr hoffent ei weld ar y tudalennau cyfryngau cymdeithasol, yn Sioe Frenhinol Cymru, yn ogystal â lle yr hoffent i’r daith nesaf fynd â nhw. 

Ar ôl swper, roedd hi’n bryd taro’r neuadd chwaraeon gyda gêm o Unihoc. Aeth pedwar tîm benben i’w ben, gyda’r puck yn mentro o un pen y neuadd i’r llall. Ffordd gyflym a ffyrnig o orffen diwrnod 1.

Fore Sul, aethom i Fferm Garthmyn Isa yn Llanrwst lle cawsom groeso gan Mr Huw Owen. Clywodd yr aelodau am sut roedd y busnes hwn wedi arallgyfeirio o ddefaid a chig eidion i fiomas yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chawsom gipolwg ar fyd ‘woodchip’ a sut mae’n cael ei greu a’i ddefnyddio. Diolch yn fawr iawn i Huw a’r teulu am daith mor ddiddorol.

Roedd hi’n amser wedyn i fynd adre, ar ôl yr hyn a fu’n benwythnos llawn profiadau newydd, ffrindiau newydd, a lot o hwyl. Diolch i bawb a helpodd i wneud y penwythnos ddigwydd, yn enwedig gwirfoddolwyr y Pwyllgor Rhyngwladol, hebddynt ni fyddai’r penwythnos hwn wedi bod yn bosibl, ac i’r staff yng Nglan-llyn am eu lletygarwch.

Cefnogwyd y daith hon yn garedig gan Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual.