Podlediad CFfI a Fi
YFC & Me Podcast

Drwy lansiad cyfres podlediadau cyntaf un yr CFfI, mae aelodau a ffrindiau’r mudiad yn cael cyfle i wrando ar benodau sy’n amrywio o sgyrsiau anffurfiol, i adroddiadau doniol drwy dilyn ôl troed ein gwestai.

Dewch i gwrdd a arweinwyr y podlediadau yma.

Gwrandewch ar y platfformau podlediad arferol neu trwy bori trwy’r penodau isod.

Pori Penodau

Pennod 21 – Mared Esyllt

Siân Williams o Fyddfai, Sir Gâr yn cyfweld Mared Esyllt Evans o glwb Pen-y-bont yn Sir Gâr yn ddigidol. Mared ydy Aelod Hyn y Flwyddyn CFfI Cymru 2020-21 ac fe glywn am ei phrofiadau ai atgofion o ymuno a’r clwb i ennill gwobr Aelod Hyn y Flwyddyn. Fe glywn hefyd am ei atgofion o gystadlaethau hanner awr o adloniant, ei phrofiad fel Llysgennad y sir am eleni a’i gobeithion am y blynyddoedd sydd ganddi ar ôl fel aelod. Gyda’r sefyllfa bresennol COVID-19 rydym yn ffodus fod Siân wedi medru cyfweld a Mared yn ddigidol. Dylid nodi cafodd y podlediad yma ei recordio  yn fis Ebrill yn ystod y cyfnod clo cyntaf, a cyn i Mared fynd ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth Aelod Hyn y Flwyddyn FfCCFfI.

Pennod 20 – Laura Elliott

Katie Court CFfI Morgannwg yn cyfweld Laura Elliott sydd yn gyn-aelod o CFfI Morgannwg a’n gyn Cadeirydd CFfI Cymru, sydd erbyn hyn yn byw yn Essex. Dyma bennod sydd wedi cael ei recordio ar-lein oherwydd amgylchiadau COVID-19 ac wrth sgwrsio meant yn adlewyrchu ar ei chyfnod fel aelod a swyddog o fewn y mudiad yn ogystal â thrafod beth mai’n ei obeithio ar gyfer y mudiad yn y dyfodol.

Pennod 19 – Monolog Elen Jones

Dyma Elen Jones, aelod o CFfI Ynys Môn, yn siarad am ei phrofiadau hi tra’n dioddef o iechyd meddwl gwael a pham dechrau ysgrifennu blogiau a recordio flogiau yn sôn am eu profiadau. Gyda hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, dyma’r amser perffaith i rannu podlediadu gan unigolyn ysbrydioledig sy’n ceisio cynnig cymorth i eraill sydd mewn sefyllfa debyg.

Felly dyma Elen Jones, yn siarad am ei phrofiadau hi a iechyd meddwl a ‘top tips’ ar sut i wylio ar ol eich iechyd meddwl yn ystod y pandemig covid-19.

Diolch yn fawr i Elen Jones am gyfrannu a diolch o galon am fod mor agored ynglyn a’r pwnc a’n barod i rannu ei phrofiadau.

Pennod 18 – John Jenkins (Troi’r Tir)

John Jenkins, aelod o CFfI Ceredigion sydd yn rhoi cip olwg mewn i fywyd ar fferm ieir. Mae’r clip yn eitem o raglen Troi’r Tir, trwy ganiatâd BBC Radio Cymru.

Diolch i John Jenkins am gyfrannu a diolch i BBC Radio Cymru am eu caniatâd i ddefnyddio’r deunydd ar gyfer ein podlediad. Mae’r rhaglen, ble mae Terwyn Davies yn cyflwyno’r straeon diweddaraf o fyd amaeth a bywyd cefn gwlad yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru pob bore Sul am 7-7.30 yb.

Pennod 17 – Menter Moch Cymru

Aelodau a oedd wedi cyrraedd y chew olaf yng nghystadleuaeth pesgi moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru y llynedd yn ogystal â dau aelod a oedd yn rhan ohono yn 2017 yn siarad ynglŷn â’r gystadleuaeth.

Mae’r bennod yn cynnwys beth y dylai aelodau ei ddisgwyl o’r fenter yn ogystal â’r manteision o ymgeisio amdano!

Pennod 16 – Nia Thomas

Non Gwenllian Williams CFfI Ynys Môn yn cyfweld Nia Thomas sydd yn gyn-aelod o glwb Rhosybol a chyn-Lywydd CFfI Ynys Môn sydd nawr yn newyddiadurwraig gyda BBC Radio Cymru. Dyma bennod sydd wedi cael ei recordio ar-lein oherwydd amgylchiadau COVID-19 ac wrth sgwrsio meant yn hel atgofion o pan oedd Nia yn aelod yn ogystal â thrafod os yw’r mudiad wedi newid dros y blynyddoedd.

Pennod 14 a 15 – Lowri Fron

Cennydd Owen Jones CFfI Ceredigion yn cyfweld Lowri Fron sydd yn gyn-aelod a’n gyn-arweinydd yng Ngheredigion. Dyma bennod sydd wedi cael ei recordio ar-lein oherwydd amgylchiadau COVID-19 ac wrth sgwrsio meant yn cyffwrdd ar hanes Lowri gyda’r mudiad yn ogystal â thrafod ei swydd bresennol a’r cyswllt mai dal yn ei gael gyda’r Ffermwyr Ifanc.

Mae’r bennod hon hefyd yn cynnwys fersiwn Cennydd o’r ‘Desert Island Discs’, sef ‘Pecyn lleihau’r gofid am covid’!

Pennod 12 a 13 – Endaf Griffiths

Cennydd Owen Jones CFfI Ceredigion yn cyfweld Endaf Griffiths sydd hefyd o Geredigion. Podlediad anarferol ble mae Ffarmwr Ifanc y Flwyddyn yn nesáu at ddiwedd ei gyfnod fel swyddog a Ffarmwr Ifanc arall ar fin dechrau ei waith. Dyma bennod sydd wedi cael ei recordio ar-lein oherwydd amgylchiadau COVID-19 ac wrth sgwrsio meant yn cyffwrdd ar hanes Endaf o fewn y mudiad yn ogystal â beth mae wedi ceisio ei gyflawn wrth fod yn swyddog yn y sir.

Pennod 11 – Monolog Mared Esyllt

Dyma Mared Esyllt, Aelod Hŷn y Flwyddyn CFfI Cymru 2020-21, yn siarad am ei phrofiadau hi ar hyn o bryd a beth mae’n ei wneud er mwyn cadw’n brysur.

Gyda’r sefyllfa bresennol COVID-19 nid yw aelodau o fewn siroedd yn medru recordio podlediadau. Er hynny, mae’r cyfnod yma am fod yn anodd ac yn unig i rai aelodau a ffrindiau’r mudiad. A be well i godi calon ond gwrando ar aelodau, cyn aelodau neu ffrindiau’r mudiad yn siarad am eu profiadau a’n hel atgofion am y dyddiau a fu.

Pennod 10 – Dewi Parry

Elin Havard CFfI Brycheiniog yn cyfweld Dewi Parry o Glwyd sydd newydd gael ei ethol fel Cadeirydd FfCCFfI ar gyfer 2020-21. Wrth sgwrsio meant yn cyffwrdd ar pam bod Dewi yn teimlo bod y mudiad o fudd i bobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru a pham ceisio am swydd Cadeirydd y Ffederasiwn Cenedlaethol. Yn ogystal â thrafod sut mae’r sgiliau mae aelodau yn meithrin, boed hynny yn llwyddo neu fethu, yn eu paratoi ar gyfer dyfodol llewyrchus.

Pennod 9 – Recordio sengl CFfI Cymru

Caryl Haf, Is-gadeirydd CFfI Cymru yn dilyn y daith wrth recordio sengl gyntaf un Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru. Gwrandewch ar sgyrsiau gyda’r unigolion yn stiwdio Sain, Llandwrog yn ogystal â rhai o aelodau’r côr ym Mhontrhydfendigaid, heb anghofio Lisa Angharad ac Alaw Llwyd Owen.

Bydd sengl gyntaf un Aelodau Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, sef fersiwn o ‘Bydd Wych’ ar gael i’w lawr lwytho o’r 7fed o Chwefror gyda chyfraniad o’r arian yn mynd tuag at yr elusen Meddwl.org.

Pennod 8 – Prysor Williams

Hannah Dobson o Eryri sydd yn cyfweld Prysor Williams sydd hefyd o Eryri. Mae Prysor yn gyn-aelod o’r mudiad yn Eryri sydd nawr yn Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. Wrth sgwrsio meant yn cyffwrdd ar brofiadau Prysor tra’n aelod yn ogystal â thrafod sut mae’r sgiliau mae aelodau yn meithrin wrth fod yn aelodau yn eu paratoi ar gyfer eu dyfodol.

Pennod 7 – Eisteddfod CFfI Cymru 2019

Alaw Fflur Jones yn dod a’r hynt a’r helynt o ddiwrnod Eisteddfod CFfI Cymru 2019 yn Wrecsam

Gwrandewch ar sgyrsiau gefn llwyfan o Eisteddfod CFfI Cymru 2019, cip olwg ar uchafbwyntiau Seremoni’r dydd a llawer llawer mwy..

Pennod 6 – Hannah Thomas

Elin Havard o Frycheiniog sydd yn cyfweld Hannah Thomas o Ferthyr Tydfil. Mae Hannah yn ffrind i’r mudiad sydd wedi beirniadu amryw o gystadlaethau ar hyd y blynyddoedd ac sydd yn gweithio fel cyflwynwraig teledu ar y rhaglen ‘Coast & Country’. Wrth sgwrsio meant yn cyffwrdd ar ba mor arbennig mae Hannah yn meddwl yw’r mudiad wrth ddatblygu ieuenctid cefn gwlad Cymru. Yn ogystal â thrafod sut mae’r sgiliau mae aelodau yn meithrin wrth fod yn aelodau yn eu paratoi ar gyfer eu dyfodol.

Pennod 5 – Eirios Thomas

Endaf Griffiths o Geredigion sydd yn cyfweld Eirios Thomas o Sir Gâr. Mae Eirios yn gyn-drefnydd ar CFfI Sir Gâr ond bellach yn gweithio i Tir Dewi. Mae Tir Dewi yn elusen sydd yn cynnig cymorth iechyd meddwl i’r rheini sydd yn byw yng nghefn gwlad Cymru. Wrth sgwrsio maent yn cyffwrdd a phrofiadau Eirios wrth iddi fod yn aelod ei hunain cyn trafod ei phrofiad wrth fod yn drefnydd ar Sir Gâr am dros ddeugain o flynyddoedd.

Pennod 3 a 4 – Katie Davies

Angharad Edwards o Sir Benfro sydd yn cyfweld Katie Davies sydd hefyd o Sir Benfro. Mae Katie yn Gadeirydd CFfI Cymru eleni a’n gyn-aelod o glwb Llys-y-frân yn Sir Benfro. Wrth sgwrsio meant yn cyffwrdd a rhai o brofiadau mwyaf cofiadwy Katie wrth fod yn rhan o’r mudiad a’n trafod y dyfodol wrth iddi ddechrau ei blwyddyn brysur fel Cadeirydd CFfI Cymru.

Pennod 2 – Teleri Mair Jones

Non Gwenllian Williams o Ynys Môn yn cyfweld Teleri Mair Jones sydd hefyd o Ynys Môn. Mae Teleri yn gyn-aelod o glwb Ffermwyr Ifanc Bodedern ond nawr yn gweithio fel Meddyg Teulu ar yr ynys. Wrth sgwrsio maent yn cyffwrdd a phrofiadau Teleri tra’n aelod gyda Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru’n yn ogystal â thrafod sut mae’r sgiliau wedi bod o a dal o fudd iddi heddiw wrth weithio yn y proffesiwn meddygol.

Pennod 1 – Alaw Fflur Jones

Alaw Mair Jones o Geredigion sydd yn cyfweld Alaw Fflur Jones sydd hefyd o Geredigion. Mae Alaw wedi ennill teitl Aelod Iau y Flwyddyn eleni yng Ngheredigion, Cymru ac ar lefel FfCCFfI. Wrth sgwrsio maent yn cyffwrdd a phrofiadau Alaw Fflur gyda Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru hyd yn hyn a’n trafod sut mae’r sgiliau wedi bod o fudd iddi wrth geisio am le yn y Brifysgol.


Arweinwyr

Cennydd Owen Jones

Aelod o CFfI Pontsian a Ffermwr Ifanc y Flwyddyn yng Ngheredigion ar gyfer 2020-21.

Elin Havard

Aelod o CFfI Pontsenni a Dirprwy Swyddog Datblygu’r Gymraeg ym Mrycheiniog.

Angharad Edwards

Cyn aelod o CFfI Llysyfran, a chyn Frenhines Sir Benfro.

Sian Williams

Aelod o CFfI Llangadog yn Sir Gâr sydd hefyd yn gweithio i BBC Radio Cymru.

Katie Court

Aelod o CFfI Gŵyr ac is-gadeirydd presennol is-bwyllgor cystadlaethau CFfI Cymru.

Non Gwenllian Williams

Aelod o CFfI Bodedern a Chadeirydd presennol is-bwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru.

Peidiwch â cholli’r un bennod. Tanysgrifiwch nawr!

Tanysgrifiwch i’n sianel podlediadau a chewch wybod pan fydd ein penodau newydd yn cael eu rhyddhau.