Rhyngwladol

Mae dy daith yn dechrau gydag CFfI Cymru… ble’r ei di?

Mae Rhaglen Rhyngwladol CFfI Cymru yn rhoi cyfleoedd bythgofiadwy i’n aelodau deithio’r byd a dysgu am ddiwylliannau a bywyd mewn gwledydd eraill. Gallwch deithio fel unigolyn, fel pâr neu fel grŵp!

Dysgwch am ddiwylliannau, darganfyddwch brofiadau newydd, gwellwch eich hyder a gwnewch ffrindiau am oes!

Edrychwch ar ein blog i glywed beth mae aelodau wedi dweud am eu profiadau teithio CFfI Cymru yn y gorffennol!

Teithiau 2024

Yn 2024, aeth 78 o deithwyr o bob rhan o Gymru i ffwrdd ar 7 taith gan gynnwys taith astudio i Budapest, ‘Canadian Roadtrip’ o Vancouver i Calgary, Rali Ewropeaidd yn Estonia, penwythnos hir yn Ynys Wyth, Taith Ddirgel i Lisbon, taith amaethyddol i Corc yn Iwerddon ac i orffen haf o deithiau – Mordaith CFfI Cymru!

Edrychwch i weld lle’r oeddem yn 2024…

Cliciwch ar bob taith i ddarllen blog gan un o’r teithwyr lle byddwch hefyd yn dod o hyd i oriel llawn o luniau a linc i fideo o’r daith!

Sut ydw i’n mynd ar daith CFfI?

Gall aelodau wneud cais am unrhyw nifer o deithiau cymwys a gallant wneud hynny drwy lenwi’r ffurflen ar-lein ar wefan CFfI Cymru o 1 Medi 2024.

Sylwer, i fod yn gymwys ar gyfer unrhyw un o deithiau rhyngwladol 2024-25 rhaid i chi fod yn aelod thâl llawn o’ch ffederasiwn sirol.

Teithiau 2023

Yn 2023, cymerodd 65 o deithwyr o bob rhan o Gymru ran mewn 10 taith. I’n haelodau amaethyddol, roedd cyfleoedd yn amrywio o Agri-I i Ynys Orkney ac Ynys Manaw, a theithiodd un aelod, gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth Elwyn Jones, i Wlad yr Iâ i ymchwilio i’w dulliau marchnata cig oen. I’r rhai a oedd am gwrdd â’u cymheiriaid CFfI Ewropeaidd cawsom dair taith ar gynnig gyda Rural Youth Europe, ac roedd mwy o gyfleoedd i weld y byd trwy deithiau UDA, taith dirgel a interrailing, lle sefydlwyd cyfeillgarwch gydol oes.

Edrychwch i weld lle’r oeddem yn 2023…

Cliciwch ar bob taith i ddarllen blog gan un o’r teithwyr lle byddwch hefyd yn dod o hyd i linc i oriel lawn o luniau a linc i fideo or daith.

Sut ydw i’n mynd ar daith CFfI?

Gall aelodau wneud cais am unrhyw nifer o deithiau cymwys a gallant wneud hynny drwy lenwi’r ffurflen ar-lein ar wefan CFfI Cymru o 1 Medi 2024.

Sylwer, i fod yn gymwys ar gyfer unrhyw un o deithiau rhyngwladol 2024-25 rhaid i chi fod yn aelod thâl llawn o’ch ffederasiwn sirol.

Teithiau 2022

Yn 2022, cychwynnodd rhaglen ryngwladol CFfI Cymru unwaith eto yn dilyn pandemig Covid 19. Cymerodd 71 o deithwyr ran mewn 10 cyfle teithio gwahanol. Roedd tripiau Homestay eleni yn cynnwys Yr Alban, Ulster, UDA a Chanada, tra bod y teithiau ‘Rural Youth Europe’ yn teithio i Budapest a’r Almaen. Lansiwyd Agri-I, gydag Ynys Manaw hefyd yn cynnig blas ar amaethyddiaeth. Aeth yr aelodau ar daith o amgylch Ewrop ar y daith Interrailing cyn i’n grŵp Safari fynd am dro ar yr ochr wyllt yn Ne Affrica! Roedd cyfle hefyd i’n haelodau iau gymryd rhan, gyda’u Her Hwylio eu hunain.

Edrychwch i weld lle’r oeddem yn 2022…

Cliciwch ar bob taith i ddarllen blog gan un o’r teithwyr lle byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolen i oriel lawn o luniau.