Blog yr Aelodau
“Rydw i mor falch fy mod wedi ymgeisio, roedd yn brofiad ysbrydoledig a gwych!”
Dydd Gwener 26 Gorffennaf, teithiodd pum aelod o ar draws Cymru, ynghyd â Chadeirydd Ieuenctid Gwledig Ewrop Niall Evans, i Lundain er mwyn dechrau’r siwrne i Estonia am brofiad 10 diwrnod gydag Ieuenctid Gwledig Ewrop.
Fe wnaethon ni ddal i fyny gydag Iwan Davies o CFfI Brycheiniog i glywed popeth am eu profiad yn Estonia…
“Teithion ni ynghyd â thîm o NFYFC Lloegr a chyrhaeddon y brifddinas Tallin nos Wener. Gyda thipyn o’r grŵp yn ddieithr i’w gilydd, cawsom gyfle i gymdeithasu a datblygwyd tipyn o gyfeillgarwch yn ystod y trip. Ar ôl ymgartrefu yn Tallin aethom am bryd o fwyd, lle wynebon ni ein her gyntaf, sef archebu pryd o fwyd oddi ar y fwydlen uniaith Estonieg. Roedd hi’n ychydig o ‘Russian Roulette’ gydag amrywiaeth eang o brydodd, ond yn ffodus ni, roedd y bwyd i gyd o’r ansawdd uchaf, a barhaodd y safon hon trwy gydol ein taith. Yn dilyn swper aethom am dro o amgylch Tallin, cyn cael ein tynnu mewn i far chwaraeon i wylio’r seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Paris, lle buom yn sgwrsio a dod i nabod ein gilydd yn well.
Fore Sadwrn, cerddon ni i mewn i hen dref Tallin, ble buom yn rhyfeddu ar furiau amddiffyn yr hen dref ac yn mwynhau gweld yr hen bensaernïaeth drwy adeiladau’r dref. Roeddem yn teimlo’n ddewr felly dewison chwilio am rywle i gael brecwast, ond yn ffodus y tro hwn roedd cyfieithiad Saesneg ar y fwydlen. Yna penderfynom fynd i grwydro o gwmpas y ddinas i ddysgu am hanes Estonia a’r ddinas Tallin. Wrth gerdded o gwmpas, penderfynom y byddem yn cerdded i fyny pob tŵr tal y gallwn. Dechreuon ni’n dda, gan ddringo’r tyrau tal mewn dim o amser. Fodd bynnag, wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen, a ninnau blino gyda llawer o’r tyrau dros 60m o uchder, roedd pob tŵr yn werth chweil, gan gynnig golygfa hardd ar y brig. Y noson honno aethon ni am bryd o fwyd ac yna allan am ychydig o ddiodydd, ond i far Albanaidd nid un Gwyddelig a oedd yn wahanol i’r arfer! Yno fe wnaethom gwrdd â thîm yr Almaen a mwynhau’r cyfle i ddod i’w hadnabod tan yn hwyr y noswaith hynny.
Ddydd Sul, fe wnaethon ni ddeffro i baratoi ar gyfer ein taith i lawr i Voore – lleoliad rali Ewrop am yr wythnos. Cyn dal y trên, cerddon ni o gwmpas y neuadd fwyd a’r farchnad, roedd hyn yn brofiad a hanner gweld yr holl fwyd gwahanol oedd yn cael ei gynnig. Yna, dalom drên 3 awr i Jo’geva, ac yna bws i leoliad y rali ble gwrddon ni â threfnwyr y rali, gweld ein hystafelloedd a chwrdd â mynychwyr eraill y Rali. Yna buom yn chware gemau dod i nabod ein gilydd cyn mwynhau cerddoriaeth a diod yn yr awyr agored lle y daethom i nabod aelodau eraill o bob rhan o Ewrop yn well.
Dydd Llun oedd diwrnod cyflwyno, a oedd yn cynnwys seremoni agoriadol lle cawsom weld gwisgoedd traddodiadol yr holl wledydd wrth chwifio eu baneri gwlad. Yn dilyn hynny cawsom ein rhannu mewn i grwpiau i gystadlu yn fersiwn y rali o’r Gemau Olympaidd. Roedd fy nhîm yn cynnwys aelodau o’r Alban, Norwy, yr Almaen a Latfia. Roedd y gemau yn cael ei dyfarnu ar brydlondeb y grŵp bob dydd yn ogystal â heriau a oedd yn cael eu gosod gydol yr wythnos. Ar ôl egwyl cawsom gyflwyniad i bwnc yr wythnos a seminar am entrepreneuriaeth. Yna cawsom egwyl ginio 2 awr lle cawsom gyfle i fwynhau’r pwll nofio a rhoi tro ar bêl foli traeth. Ar ôl cinio cawsom sgwrs am y cod ymddygiad am yr wythnos, ac fe orffennon ni am y diwrnod i baratoi ar gyfer bwffe rhyngwladol y noson honno. Dewison gynrychioli Cymru gyda wisgi a fudge o Ynys Môn, caws o Eryri, Waffles Tregroes ac wrth gwrs allwn ni ddim anghofio am bice ar y mân! Mae’n debyg mai caws ‘black bomber’ Eryri oedd seren y noson o ran y bwyd. Roedd yn ddiddorol gweld yr holl fwyd a diod o’r gwledydd eraill a dysgu mwy am ddiwylliannau Ewrop. Cariodd y bwyta a’r yfed ymlaen yn hwyr mewn i’r nos, ac roedd dadl fawr rhwng y gwledydd Celtaidd am bwy oedd yn creu’r wisgi gorau.
Dydd Mawrth, ar ôl y bwffe rhyngwladol fe wnaethon ni ddeffro gydag ychydig o ben tost yn dilyn dod i nabod diwylliannau gwledydd Ewrop cystal. Aethom i’r seminarau, y cyntaf yn gwrando ar siaradwr gwadd, sef ffermwr ifanc o Estonia a oedd yn egluro am weithredoedd a chystadlaethau’r ffederasiwn, yna cyflwyniad gan Katrine Leitane, aelod o gymdeithas sifil grŵp 3 EESC. Roedd hyn yn ddiddorol iawn. Ar ôl cinio roedd gêm ddwys o bêl foli, ac yna llyfrgell bobl lle siaradodd aelodau o’r rali am beth oedd eu busnesau a’u swyddi, i mi dyma un o seminarau gorau’r wythnos. Roedd tipyn o bobl ddiddorol ar y trip, ac roedd yn gyfle gwych medru sgwrsio a dysgu oddi wrthynt yn ystod yr wythnos. Dawnsio diwylliannol oedd rhaglen y noson felly fe wnaethom ni o Gymru ddangos dawns Jac y Do. Gwellodd fy nawnsio wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen gan fod tipyn o ddigwyddiadau ddawnsio diwylliannol wedi ei drefnu!
Dydd Mercher, dechreuon ni sesiwn ar bwnc yr wythnos sef entrepreneuriaeth. Dechreuon y sesiwn wrth daflu syniadau mewn ffordd eithaf gwahanol a oedd yn cael eu galw yn hacathon. Parodd hyn am 3 awr a oedd yn eithaf diddorol, a oeddech chi’n gwybod bod y syniad am bolt – yr uber a’r sgwteri a welwch yn y ddinas – wedi dod o ffermwyr ifanc yn Estonia yn gwneud hacathhon? Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw roedd yn rhaid i ni ddewis problem, lle ac eitem allan o het, yna roedd yn rhaid i ni greu braslun i ddatrys y broblem gan ddefnyddio’r lle a’r eitem. Gyda’r nos gwnaethom frwydr ‘lip sync’ lle daeth ein grŵp yn ail gyda’n perfformiad o’r gan Tequilia, cân a oedd yn dipyn her am y sialens hon!
Dydd Iau, oedd ein diwrnod alldaith lle cawsom ddewis o 3 trip, penderfynodd tîm Cymru fynd ar daith 1. Ein stop cyntaf oedd fferm wartheg defaid ‘dexter.’ Roedd yn ddiddorol sut roedd rhaid i’r ffermwr ddelio â’r bleiddiaid, roedd ganddi 2 gi defaid Pyrenees gwych a fyddai’n eistedd ac yn gwarchod y defaid 24/7. Roedd yn defnyddio cilfachau llysieuol (herbal lays) i fwydo defaid ar system bori cylchdro lle’r oedd ganddi bowser dŵr gyda chamera CCTV a oedd yn ei galluogi i gadw llygaid ar y defaid drwy gydol y dydd gan fod ganddi swydd llawn amser hefyd. Ar ôl hynny aethon ni i encil fferm a oedd yn cynnig cyfle i bobol o’r ddinas i ymweld â fferm draddodiadol o Estonia a oedd wedi moderneiddio rhywfaint. Roedd yr encil yn rhoi cyfle i bobl i ymlacio, i fwyta bwyd cartref o’r ardd a nyddu gwlân, fe wnaethon ni roi cynnig ar eu bwyd a oedd yn flasus. Ein stop olaf oedd fferm eidion a chnydau, lle oedd y ffermwr yn frwdfrydig iawn am iechyd pridd, roedd yn tyfu amrywiaeth o gnydau ac eglurodd ei broses o gylchdroi cnydau. Roedd ganddo hefyd fuches fendigedig o Aberdeen Angus – roedden nhw’n disgleirio! Dychwelon ni i’r gwersyll, ble gymron ni rhan mewn cwis ac ychydig o chwaraeon.
Dydd Gwener, cawsom seminar ar ddiwylliant Estonia a oedd yn ddiddorol, ac yna prynhawn o hunan fyfyrio lle medron ni ddefnyddio’r sawna, pwll nofio neu chwarae pêl-foli, rhywbeth yr oedden i erbyn hyn yn eithaf da yn ei chwarae – Gemau Olympaidd 2028, gwyliwch y gofod hwn! Roedd yna hefyd chwaraeon traddodiadol Estonia – wanging welly, tynnu’r gelyn a’i fersiwn nhw o’r Limbo. Y noson honno cawsom gwmni cwmni dawns traddodiadol o Estonia a dysgasom ni sut i ddawnsio.
Dydd Sadwrn oedd ein diwrnod olaf. Yn y bore gwrandawom ar siaradwr gwadd arall, yna ychydig o sgyrsiau gan Ieuenctid Gwledig Ewrop, yn dilyn hyn cawsom y prynhawn bant i bacio cyn y seremoni gloi. Cafon y cyfle i wisgo ein gwisg ffurfiol i’r seremoni a ffarwelio â Niall fel cadeirydd a chroesawu’r cadeirydd newydd Nicolai. Cyhoeddwyd canlyniadau’r Gemau Olympaidd ieuenctid gwledig; nid oedd ein tîm ni’n llwyddiannus iawn yn rhain ond fe gawson ni hwyl ac roeddem wedi mwynhau dod yn ffrindiau da. Yna cawsom fwyd (waw!), blason ni borc a oedd wedi bod yn coginio’n araf ar y barbeciw trwy’r dydd, roedd yn hynod flasus ac yn toddi yn fy ngheg ac roedd y cyw iâr yn llawn blas. Fel gydag unrhyw ginio da, roedd parti ar ôl lle’r oedd bwth lluniau, felly fe wnaethon ni dynnu lluniau i’w cadw fel atgofion am oes. Fe wnaethon ni yfed a chwerthin o gwmpas y bwrdd ac yna canu karaoke tan oriau mân y bore, ac yna chware gêm olaf o bêl foli mewn siwt, efallai nid y syniad gorau!
Ddydd Sul fe ddywedon ni hwyl fawr. Roedd hi’n ddiwrnod emosiynol wrth i’n hwythnos o fondio dod i ben. Fe wnaethon ni lawer o ffrindiau newydd a dysgu am gymaint o wahanol ddiwylliannau. Clod i dîm Rural Youth Europe ac Estonia E4 am gynnal wythnos wych! Teithion ni’n ôl i Tallin, ar gyfer swper fe wnaethon ni roi cynnig ar gig arth (ie, arth!) Nid ydym yn argymell arth fel dewis arall i ginio Dydd Sul. Yna, fe wnaethon ni hedfan yn ôl i Lundain.
Os oes unrhyw aelodau CFfI Cymru yn dal i ddarllen ac yn meddwl, dylen i ymgeisio? Roeddwn i’n eithaf amheus am y daith i ddechrau ond rydw i mor falch fy mod wedi ymgeisio, roedd yn brofiad ysbrydoledig a gwych. Mae Estonia yn wlad hardd wedi’i thrwytho mewn rhywfaint o hanes trist ond mae wedi diffinio ei hun fel cenedl. Rwyf wedi dysgu am ddiwylliannau o bob rhan o Ewrop, gwahanol fusnesau ac yn bwysicaf oll wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau newydd, byddaf yn bendant yn gwneud cais eto!