GWRANDO

Mae’r Gymraeg i’w chlywed ar draws y byd erbyn hyn, gyda sawl cân wedi cael eu ffrydio yn rhynglwadol, selebs yn mynd ati i ddysgu’r iaith a phodlediadau o bob math yn cael eu cynhyrchu. Mae’r posibliadau’n ddiddiwedd – ewch i weld beth sydd o ddiddordeb i chi.

Y Clwb Can Mil

Mae sawl cân Cymraeg wedi cyrraedd miliwn o ffrydiadau erbyn hyn, wedi i Alffa dorri’r record gyda ‘Gwenwyn’ – gwrandewch ar y caneuon sydd wedi cyrraedd y miliwn.

Wales YFC Musician Playlist

Mae CFfI Cymru yn ffodus bod ein aelodau mor dalentog, nifer wedi rhyddhau cerddoriaeth eu hunain – dyma ddetholiad ohonynt. Oes mwy? Rhowch wybod i ni!

Yma o Hyd

Mae’r gân bellach wedi dod yn anthem tîm Pel-Droed Cymru yng Nghwpan y Byd, cân ysgrifenwyd 40 mlynedd yn ôl wedi adfywio eto.

Y Pod

Gyda phodlediadau mor amrywiol bellach, wrth gwrs, mae podlediadau Cymraeg yn eu plith gydag amrywiaeth o bob genre, gan gynnwys podlediad ‘CFfI a Fi’, cymerwch olwg beth sydd o ddiddordeb i chi.

Radio Cymru 2

Yn ogystal â Radio Cymru, mae ail sianel gyda’r orsaf sydd yn cyflwyno cerddoriaeth, Cymraeg a Saesneg, bob bore, pa ffordd well i ddeffro?

Hansh

Sianel gyda fideos sy’n rhoi llwyfan i bobl ifanc Cymru drwy gomedi.

S4C

Mae amrywiaeth o raglenni ar S4C a hefyd fideos ar y wefan i ddysgwyr Cymraeg.

Iechyd Da, Mitching or Cwtch

Pa un o’r ymadroddion llafar Cymraeg hyn sy’n ffug? Pan fyddwch chi’n meddwl bod gennych chi’r ateb cliciwch yn iawn wrth i Ruth Jones ddatgelu’r ateb!