Blog yr Aelodau
“Mae’r cysylltiadau, y wybodaeth, a’r profiadau a gewch chi yn wirioneddol anhygoel”
Ar ddydd Llun y 22ain o Ebrill 2024, cychwynnodd Leah Meirion o Nantglyn yng Nghlwyd ar daith fythgofiadwy i Budapest, Hwngari, ar gyfer y sesiwn astudio “Gwaith Ieuenctid Gwledig 101”, a drefnwyd gan Rural Youth Europe mewn cydweithrediad â Chyngor Ewrop a Ieuenctid Ewrop. Canolfan yn Budapest. Daeth y digwyddiad a 35 o bobl ifanc brwdfrydig o gymunedau gwledig ledled Ewrop, i gyd wedi’u huno gan nod cyffredin: hyrwyddo cynhwysiant ieuenctid gwledig trwy wirfoddoli ac adeiladu cymunedau.
Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Leah yma am ei phrofiad ar Seminar y Gwanwyn…
Wrth i mi gychwyn ar yr antu, doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth oedd yn disgwyl mi, a oedd yn ei dro wedi gwneud y profiad gant gwaith gwell. Roedd cyfarfod â phobl newydd o gefndiroedd amrywiol, cymharu gwaith gwahanol sefydliadau, a thrafod yr heriau unigryw rydym i gyd yn eu hwynebu mewn gwaith ieuenctid gwledig yn agoriad llygad. Roedd y sesiwn nid yn unig yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwaith ieuenctid gwledig, yn enwedig yn dilyn y pandemig, ond hefyd yn rhoi sgiliau a syniadau i ni gael dod adre hefo ni.
Un o agweddau mwyaf cofiadwy’r sesiwn oedd y cyfle i gyfnewid syniadau a phrofiadau gyda gweddil y criw. Roedd yn hynod ddiddorol gweld sut mae gwahanol sefydliadau’n gweithredu a dysgu sut mae sefydliadau eraill yn mynd o gwmpas pethau. Roedd creu “toolbox” o arferion da ar gyfer adeiladu cymunedau yn arbennig o ddefnyddiol, gan ei fod yn rhoi camau ymarferol i ni fynd yn ol gyda ni.
Doedd y sesiwn ddim yn drafodaeth dwys i gyd roedd hefyd yn ddathliad o’n diwylliannau ac yn gyfle i rannu profiadau. Pleser oedd cael rhannu gwaith anhygoel Ffermwyr Ifanc Cymru gyda chynrychiolwyr o wledydd eraill, ac roedd yn wirioneddol syfrdanol i rai ohonynt glywed am gymaint rydym yn gwneud fel mudiad, a sut yr ydym yn darparu ar gyfer pob oedran a diddordeb. Mae’r cysylltiadau dwi wedi gwneud yn ystod yr wythnos yn amhrisiadwy, a gallai ddweud rwan fod gennai ffrindiau mewn dros 14 o wahanol wledydd ledled Ewrop, o Armenia i Awstria, a hyd yn oed Latfia. Rhai rydw i’n siarad â nhw bob dydd ers 4 mis.
Wrth i’r wythnos ddod i ben, roeddwn i’n gadael Budapest gyda balchder ac angerdd o’r newydd am waith y mudiad.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag angerdd am waith ieuenctid gwledig neu sydd wrth ei bodd yn cyfarfod â phobl newydd a dysgu am y byd o’u cwmpas i gymryd rhan mewn cyfleoedd tebyg. Mae’r cysylltiadau, y wybodaeth, a’r profiadau a gewch chi yn wirioneddol anhygoel. Allai ddim aros i gyfarfod â pawb eto yn fuan, er mae’n siwr o gymeryd ambell i flwyddyn i mi fynd o gwmpas i’w gweld i gyd!