News

Llywydd newydd CFfI Cymru

Ar 16 Medi 2023, etholwyd Mrs Sarah Lewis o Lanrhaeadr Ym Mochnant yn Sir Drefaldwyn yn Llywydd newydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Nghaerdydd.

Cynigiodd Alun Tudor-Thomas, Cadeirydd CFfI Maldwyn Sarah Lewis ac fe wnaeth Ella Harris, Cadeirydd CFfI Maesyfed gefnogi Alun drwy eilio’r cynnig. Bu tri enwebydd i aelodau ar draws Cymru i bleidleisio drosto, lle cafodd Sarah ei hethol yn llwyddiannus fel Llywydd newydd CFfI Cymru! 

Dywedodd Sarah Lewis: “Dwi wedi fy syfrdanu at y ffaith bod aelodau wedi pleidleisio drosta i. Mae CFfI yn fy ngwaed ac yn credu’n gryf y gall aelodau gyflawni cymaint gyda’r sefydliad hwn. Byddaf yn gwneud fy ngorau dros CFfI Cymru, ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag aelodau, swyddogion a staff.”

Or Chwith: Alun Tudor-Thomas, Cadeirydd CFfI Maldwyn. Sarah Lewis, Llywydd CFfI Cymru. Ella Harris, Cadeirydd CFfI Maesyfed.

Pwy yw Sarah Lewis? 

Dros y 44 mlynedd diwethaf, mae Sarah Lewis wedi rhoi ei holl egni i fudiad y Ffermwyr Ifanc yn Maldwyn, fel aelod, swyddog, rhiant, beirniad, arweinydd clwb, hyfforddwr, cadeirydd, Is-lywydd, Cadeirydd Bwrdd Rheoli a Llywydd Sir, i enwi rhai!

Ymunodd Sarah gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Dolfor yn 1979 yn 11 oed ac yn ystod ei chyfnod fel aelod, wedi cymryd sawl rôl o fewn y clwb ac wedi ymgeisio mewn amrywiaeth o gystadlaethau. Yn hwyrach ymlaen, bu Sarah mewn sawl rôl o fewn CFfI Maldwyn, gan gynnwys Cadeirydd Sir yn 1994, ac yn 1996 etholwyd yn Gadeirydd CFfI Cymru. Enwebwyd hi hefyd yn Gadeirydd CFfI Cenedlaethol ar ôl gwasanaethu ar Gynghorau Cenedlaethol a phwyllgorau cystadlaethau am nifer o flynyddoedd.

Mae’n saff dweud, fel aelod o’r CFfI, gwnaeth Sarah gymryd mantais lwyr o bob cyfle daeth ar ei thraws o fewn y mudiad ac o’r cyfleoedd hyn, wedi cynyddu ei gwybodaeth a’i sgiliau mae’n parhau i drosglwyddo i’r cannoedd o aelodau sydd wedi bod drwy’r mudiad. 

Ers 1996, mae Sarah wedi bod yn Arweinydd Clwb CFfI Dyffryn Tanat ac yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi cefnogi’r clwb mewn nifer fawr o ffyrdd. Mae hi wedi cynhyrchu llawer o Ddramâu, Hanner Awr o Adloniant, Pantomeim a Sgetsys, cefnogi a mentora swyddogion y clwb gyda’u rolau ac yn gyffredinol wedi cefnogi’r clwb gyda’u llywodraethu, nosweithiau clwb, digwyddiadau a chodi arian. 

Mae gwybodaeth Sarah am sefydliad CFfI, nid yn unig ar lefel sirol, ond hefyd yn genedlaethol, yn amhrisiadwy. Yn ei rolau amrywiol o fewn y sir, mae Sarah wedi cefnogi aelodau unigol a chlybiau ar draws Maldwyn gyda’i meysydd arbenigol niferus, gan gynnwys paratoi aelodau ar gyfer cystadlaethau, i gynnwys hyfforddiant siarad cyhoeddus, barnu stoc a gosod blodau. 

Yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd CFfI Cymru, ymwelodd Sarah â phob sir ac mae wedi parhau i’w cefnogi dros y blynyddoedd drwy feirniadu cystadlaethau llwyfan fel yr One Plus, Meimio i Gerddoriaeth, Siarad Cyhoeddus a Gosod Blodau, yng Nghymru ac yn genedlaethol. Mae Sarah yn credu’n llwyr ym mudiad CFfI, ac i gefnogi pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig i gyflawni eu potensial llawn. Mae’n gweithio’n galed i sicrhau bod pob aelod, waeth beth yw eu cefndir, yn cael cyfle cyfartal ac yn mynd hyd eithaf eu gallu i sicrhau bod hynny’n digwydd.  

Dywedodd Alun Tudor-Thomas, Cadeirydd CFfI Maldwyn: “Dechreuodd Sarah ei rôl fel Llywydd Sir CFfI Maldwyn yn 2020 a’n harwain ni i gyd drwy’r pandemig, gan ein cadw ni’n llawn cymhelliant, gan wneud i ni chwerthin a thywys aelodau gyda’u penderfyniadau ar hyd y ffordd. Y flwyddyn ganlynol, cafodd ddiagnosis o ganser y fron, ond ni wnaeth y newyddion newid bywyd hynny hyd yn oed wanhau Sarah a’i hangerdd dros CFfI! Parhaodd gyda’i Llywyddiaeth ac roedd yn benderfynol o beidio â gadael i ganser ennill. Mae ganddi arfer o gymryd sefyllfa heriol a’i throi’n rhywbeth cadarnhaol, ac yn dilyn ei siwrnai, mae Sarah wedi chwarae rhan ganolog wrth sefydlu cangen newydd Maldwyn o Gronfa Ganser Lingen Davies, y mae hi wedi cael ei phenodi’n ysgrifennydd iddi.”

Y tu allan i CFfI, mae Sarah wedi bod yn ymwneud yn helaeth yn ei chymuned leol fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol a thrwy rolau ysgrifenyddol yng Nghlwb Rygbi COBRA. Mae gweithio i Fanc Barclays ers 23 mlynedd wedi rhoi dealltwriaeth gadarn i Sarah o gyllid ac mae’n aelod cyfredol o Bwyllgor Codi Arian CFfI Cymru.

Mae Sarah yn llysgennad i ddysgwyr Cymraeg ac i fenywod mewn amaethyddiaeth. Mae’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar bob cyfle ac fel ffermwr ei hun, mae hi wir yn deall yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth chwilio am yrfa o fewn sector sy’n cael ei dominyddu gan ddynion. Bydd Sarah yn deall yr aelodau, yn deall gwreiddiau’r CFfI ac yn deall mewnbwn y CFfI i Amaethyddiaeth Cymru.

Ychwanegodd Alun: “Rydym yn hynod falch i alw Sarah yn Aelod Oes o CFfI Maldwyn a chyda’ch cefnogaeth chi heddiw, hoffem anrhydeddu ei thaith gwirfoddoli anhygoel gyda CFfI trwy ddechrau’r bennod newydd hon. Rwy’n falch o gynnig Mrs Sarah Lewis, ar gyfer rôl Llywydd CFfI Cymru.”

Eiliodd Cadeirydd CFfI Maesyfed, Ella Harris cynnig Alun ac meddai “Ym myd y CFfI, mae Sarah wedi manteisio ar bob cyfle a gynigwyd iddi ac o hynny wedi ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau. Fodd bynnag, mae hefyd wedi rhoi cyfraniad amhrisiadwy nol i’r mudiad, gan rannu ei holl sgiliau a gwybodaeth gyda’r cannoedd o aelodau sydd wedi bod drwy’r mudiad. Mae aelodau CFfI Maesyfed yn credu’n ddiffuant mai o’r tu fewn daw’r aelodau a llysgenhadon orau. Mae Sarah yn perthyn yn falch i Ddolfor, Maldwyn ac i CFfI Cymru ac yn rhagori ar y rhinweddau a’r nodweddion sydd angen i fod yn llywydd.”

Hoffai CFfI Cymru longyfarch Sarah ar ei hethol yn Llywydd. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Sarah dros y ddwy flynedd nesaf.

Or chwith: Sarah Lewis, Llywydd Newydd CFfI Cymru. Chris Lewis, Cyn Lywydd CFfI Cymru.