Newyddion

Ffermio ar ffilm yn ystod Covid-19

Yn dilyn cyfarfod diweddar gyda chynrychiolwyr Ffederasiwn Cymdeithas Tir Glas Cymru a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI), rydym yn falch o gyhoeddi cyfle gwych i aelodau sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth ac ymarfer cynhyrchu a defnyddio glaswellt a phorthiant.

Mae’r Gymdeithas Tir Glas yn dod â gweithwyr ymchwil, ffermwyr, cynghorwyr, athrawon ac aelodau technegol o’r diwydiant amaethyddol ynghyd. Ma’r British Grassland Society mewn cysylltiad â ffermwyr trwy ei chymdeithasau Tir Glas lleol cysylltiedig ledled y Deyrnas Unedig.

Mae cystadleuaeth newydd wedi’i lansio ddydd Llun 22 Mehefin 2020 mewn cydweithrediad rhwng CFfI Cymru a Chymdeithas Tir Glas Cymru.

Nod y gystadleuaeth yw cynhyrchu fideo, heb fod yn fwy na munud o hyd ar y thema ‘Ffermio trwy Covid-19’. Rhaid cadw at reoliadau Iechyd a Diogelwch yn y fideo.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i aelodau CFfI Cymru a Chymdeithas Tir Glas. Y dyddiad cau yw 16 Gorffennaf 2020 a chyhoeddir yr enillwyr ar 22 Gorffennaf 2020, gellir gweld y manylion llawn ar wefan CFfI Cymru.

Rydym yn ddiolchgar i Ffederasiwn Cymdeithas Tir Glas Cymru am eu rhodd hael tuag at y gwobrau.

Dywedodd Dafydd Parry Jones, Cadeirydd Cymdeithas Tir Glas Cymru “Ar adegau fel hyn yr ydym yn cael ein herio i addasu, a datblygu dulliau newydd o gyfathrebu trwy dechnoleg, i rannu gwybodaeth o’r arfer gorau, a phrofiadau personol, er budd y diwydiant Amaeth.”

“Pleser yw cael cydweithio gyda Chymdeithas Tir Glas Cymru. Rydym bob amser yn agored i syniadau newydd er mwyn datblygu cyfleoedd i’n haelodau ac rydym yn gobeithio bydd y gystadleuaeth hon yn denu nifer fawr o geisiadau – ewch amdani!” meddai Non Williams, Cadeirydd Materion Gwledig.