MATERION GWLEDIG
Erioed wedi meddwl beth mae Pwyllgor Materion Gweldig CFFI Cymru yn ei wneud? Dyma rhagflas i chi!
Os ydych chi am brofi mwy o’ch aelodaeth, beth am ymuno â Menter Ŵyn CFfI Cymru, ymweld â mentrau amaethyddol ar y Daith Astudio Materion Gwledig neu fanteisio ar yr hyfforddiant a gynigir i aelodau er mwyn eu harfogi a sgiliau gwerthfawr i’w defnyddio bob dydd ar y fferm.
Cyfleoedd
Ynglŷn â’r cynllun
Partneriaeth rhwng Dunbia (Llanybydder), Sainsbury’s a CFfI Cymru yw Menter Ŵyn CFfI Cymru. Mae’r bartneriaeth yn rhoi cyfle i aelodau CFfI Cymru i gyflenwi eu cig oen Cymreig i siopau Cymreig Sainsbury am bris premiwm trwy gydol y flwyddyn.
Amcan y cynllun yw gweithio gyda phrosesydd ac adwerthwr blaengar i ddenu aelodau CFfI Cymru sy’n cynhyrchu cig oen i fod yn gyflenwyr ac i gadw Ffermwyr Ifanc ar flaen y gad yn y diwydiant. Yn y pen draw amcan y fenter yw creu cadwyn gyflenwi gynaliadwy i helpu cefnogi dyfodol cefn gwlad Cymru.
Pam ddylech chi gymryd rhan?
Mae’r cynllun yn creu llif incwm ar gyfer y mudiad, gan fod Sainsbury’s yn cyfrannu 40c yr oen (ar ben y pris yr ydych yn ei dderbyn) yn uniongyrchol i CFfI Cymru. Bydd 10c o hynny yn mynd yn uniongyrchol at eich Ffederasiwn Sirol.

Taith Astudio

Croeso i FarmWell Cymru – pob math o adnoddau i’ch helpu chi a’ch busnes fferm fod yn gryf a chadarn. Ewch i’r wefan isod.