Amdanom Ni

Rydym mor ddiolchgar i’r rhai sy’n gwirfoddoli eu hamser i gefnogi CFfI Cymru a’n 12 Sir. Mae tua 3,000 o bobl yn gwirfoddoli i CFfI Cymru bob blwyddyn … heb eu cyfraniad ni fyddai CFfI Cymru yn bodoli ar ei ffurf bresennol, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am y cyfraniad hwn.

Mae gennym gyfleoedd amrywiol i wirfoddoli gyda ni.

Gwirfoddoli

Fel beirniaid, stiwardiaid, hyfforddwyr, rhieni, arweinwyr Clybiau lleol, aelodau cyswllt a llawer mwy… heb eu cyfraniad ni fyddai’r CFfI yn bodoli yn ei ffurf bresennol, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am y cyfraniad hwn.

Gallwch wirfoddoli gyda;

  • Clybiau
  • Gweithgareddau sirol
  • Gweithgareddau Cymru

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: information@yfc-wales.org.uk