Rhagfyr 2023

CFfI Llanigon

Enw y Clwb:

CFfI Llanigon

Nifer o Aelodau:

19

Lle Rydych chi’n Cyfarfod:

Neuadd Bentref Llanigon ar Nos Lun

Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:

Egni, Hwyl, Ffermio

Hoff Weithgaredd Noson Clwb:

Ymweliad fferm neu rywbeth sy’n ymwneud â bwyd. Fe wnaethon ni gael noson wych yn adeiladu rafft a barbeciw ar ddiwedd llynedd.

Cyflawniadau Codi Arian:

Y mis hwn rydym wedi codi £500.00 ar gyfer ysbyty Canser Felindre, drwy daith gerdded noddedig i fyny Pen Y Fan a chanu carolau yn y gymuned leol. Yn y flwyddyn newydd rydym yn bwriadu cynnal ein Noson Bingo hynod boblogaidd i helpu i godi arian ir clwb.

Gweithio o fewn y Gymuned:

Mae gennym rhan fawr yn helpu i drefnu Sioe enwog Llanigon ym mis Awst, o ysgrifennu arwyddion, pacio rosette, adeiladu corlannau defaid, mae’n gyfle gwych i ni weithio fel tîm a recriwtio aelodau newydd.

Hoff gystadlaethau:

Mae gennym beirniaid stoc brwd, chwaraewyr chwaraeon a rhai aelodau creadigol iawn, rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod ein clwb wir yn elwa o’r dewis eang o gystadlaethau sydd gan CFfI i’w gynnig.

Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg:

Rydym yn glwb sydd wedi’i leoli ar y ffin, mae gennym dipyn o aelodau Saesneg ond wedi dweud hynny gwelwn gyfle da yn yr iaith Gymraeg yn nyfodol ein clwb.