Mai 2023

CFfI Bodedern, Ynys Môn

Enw y Clwb:

CFfI Bodedern, Ynys Môn

Nifer o Aelodau:

31

Lle Rydych chi’n Cyfarfod:

Canolfan Bro Alaw yn Ysgol Uwchradd Bodedern

Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:

Brwdfrydig, Hyderus a Chymunedol

Hoff Weithgaredd Noson Clwb:

Yn ein Parti Pasg diweddar y clwb, wedi ei gynnal gan ein harweinyddion, roedd gennym bedwar tîm; Y Bwnis, Y Meee’s, Y Mooo’s a’r Cywion yn cystadlu mewn noson llawn gweithgareddau hwyl a gemau gwirion.  Rydym yn lwcus iawn o gefnogaeth ein harweinyddion gan ein bod yn glwb gyda nifer uchel o aelodau iau.

Cyflawniadau Codi Arian:

Rydym yn glwb sydd yn gwneud dipyn o godi arian o fewn y gymuned, ac yn mwynhau trefnu neu fod yn rhan o weithgareddau lleol.  Rydym wedi creu perthynas dda gyda hwb cymunedol yn yr ardal, sef Yr Iorwerth ym Mryngwran.  Rydym yn hynod o ddiolchgar o gael cynorthwyo’r criw i gynnal digwyddiadau a bod yn rhan o’r paratoi, y diwrnod ei hun a’r clirio ar y diwedd.  Mae’r diwrnodau hwyl Calan Gaeaf a Nadolig wedi bod yn llwyddiannus iawn i’r ardal ond hefyd y clwb. 

Gweithio o fewn y Gymuned:

Rydym yn gobeithio trefnu diwrnod o hwyl ar gyfer yr aelodau a’r gymuned yn ystod yr haf, gan godi arian i’r clwb ac i elusennau lleol.  Rydym hefyd ar hyn o bryd yn paratoi tuag at wneud y caffi yn ystod Eisteddfod Môn 2023, ac rydym yn hynod o ddiolchgar i’r aelodau a’i rheini am eu cymorth gyda hyn.  Braf yw cael cyd-weithio gyda phwyllgorau lleol eraill i gael cynnal digwyddiadau fel hyn.

Hoff gystadlaethau:

Fel clwb bach, mae pob aelod yn tueddu i fod yn rhan o bob cystadleuaeth.  Mae gennym aelodau sy’n mwynhau’r siarad cyhoeddus, eraill yn mwynhau cystadleuaeth dawnsio, ac eraill yn hoffi’r barnu stock. Ond dwi’n meddwl mai’r Rali yw uchafbwynt y flwyddyn, ac yn enwedig cystadleuaeth Tynnu’r Gelyn! Mae’r Rali yn gyfle i bob aelod ddangos eu doniau a chael cyfleoedd anhygoel gyda’r elfennau amrywiol o fewn y cystadlaethau.

Eleni, roedd pawb wedi mwynhau’r gystadleuaeth Hanner Awr Adloniant, ac yn hynod o falch o gael cynrychioli’r Sir ar lefel Cymru.  Roedd yr aelodau yn hoff o’r amrywiaeth sydd yn rhan o’r gystadleuaeth, gyda phob aelod yn cael rhan oedd yn eu siwtio nhw.

Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg:

Rydym yn defnyddio’r Gymraeg ymhob noson clwb ac yn cystadlu yn Gymraeg bob amser.  Mae gennym aelod sy’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, a braf yw gweld yr aelod yn tyfu mewn hyder bob wythnos, ac yn dechrau cystadlu drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd!

Ffeithiau Hwyl:

  • Ein Trysorydd Rhys yw Is-gadeirydd y mudiad!
  • Ein dwy slogan ydi ‘Mad Cows Boded’ ag ‘Teirw Gwyllt Boded’.

Lluniau: