Hydref 2023

CFfI Llanwenog

Enw y Clwb:

Clwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog

Nifer o Aelodau:

53

Lle Rydych chi’n Cyfarfod:

Ysgol Dyffryn Cledlyn neu Neuadd yr Hafod, Gorsgoch

Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:

Cystadleuol, Cymdeithasol, Brwdfrydig

Hoff Weithgaredd Noson Clwb:

Mae Paddlers Llandysul yn boblogaidd iawn gyda llawer o aelodau yn mynychu. Chips a Rownderi ar draeth Cei Newydd – noson mwyaf poblogaidd ar ddiwedd y flwyddyn. Noson i joio ac ymlacio ar ôl blwyddyn prysur a gweithgar.

Cyflawniadau Codi Arian:

Canu Carolau- rydym wedi casglu arian tuag at elusennau amrywiol megis Parkinsons. Yn ein Cwrdd Diolchgarwch blynyddol rydym yn casglu arian tuag at elusen. Pan ddathlodd y clwb ei benblwydd yn 60 mlwydd oed fe wnaethon ni Sialens 60 milltir i godi arian tuag at Alzheimers Cymru. Casglwyd £10,680.56 tuag yn ystod y sialens.

Gweithio o fewn y Gymuned:

Adeg Covid roeddwn yn cynorthwyo aelodau bregus o’r gymuned wrth siopa a chasglu presgripsiwn. Ar ôl ein cwrdd diolchgarwch blynyddol rydym yn rhoi llysiau a ffrwythau i gartref yr henoed yr ardal. Rydym yn cynnal nosweithu cymunedol megis noson Bingo a chyngherddau blynyddol megis yr Eisteddfod a’r
Adloniant. Fe wnaethon ni casglu sbwriel yn y Gymuned yn rhan o prosiect.

Hoff gystadlaethau:

Meim!! Mae pawb eisiau gwneud y Meim bob blwyddyn. Hefyd yr Adloniant- rhywbeth sy’n cynnwys bach o bawb!

Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg:

Rydym yn cynnal ein cyfarfodydd wythnosol yn Gymraeg, rydym yn cyfathrebu gyda’n gilydd trwy y Gymraeg. Cymraeg yw iaith gyntaf rhan fwyaf o’n aelodau.