Calendr CFfI Cymru 2021

Gan ddod â chasgliad o 12 ffotograff a dynnwyd gan aelodau CFfI Cymru yn arddangos eu siroedd drwy’r tymhorau, mae calendr CFfI Cymru bellach ar werth.

Hoffai CFfI Cymru ddiolch i’r holl noddwyr a welir yn y calendr gan gynnwys y prif noddwr Welsh Farm Supplies am eu cefnogaeth a’u haelioni. 

Pris y calendr yw £8.00, gan gynnwys postio. Bydd yr holl arian a godir yn cael ei rannu rhwng CFfI Cymru a’r sir o’ch dewis y gellir ei ddewis wrth dalu.