Blog yr Aelodau

UDA 2023

Fe wnaethon ni ddal i fyny gydag Emma Morgan o CFfI Maldwyn i glywed am taith UDA!

Mae rhaglen ryngwladol y CFfI yn rhaglen ardderchog i aelodau. Yn ddiweddar, dwi wedi bod ar daith UDA ac wedi cael profiad anhygoel. Nid yn unig oedd y lleoliadau yn syfrdanol (gan gynnwys Grand Canyon a Las Vegas), ond medru rhannu’r profiad gyda chyd-aelodau CFfI wedi bod yn fythgofiadwy.

Dwi wedi cyfarfod pobol anhygoel ar y daith a wedi gwneud ffrindiau oes.

Diolch i CFfI Cymru am y cyfle.