Blog yr Aelodau

Penwythnos Will & Bethan yn Omagh

“Dros benwythnos olaf mis Ebrill, cefais i, Will Hughes Cadeirydd Rhyngwladol a Bethan Jenkins, Is-Gadeirydd Rhyngwladol, y cyfle i gynrychioli CFfI Cymru yng Nghynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Clybiau Ffermwyr Ifanc Ulster yn Silverbirch Hotel yn Omagh.

Dechreuodd nos Wener gyda chinio’r Llywydd. Roedd hwn yn gyfle gwych i ddal i fyny gydag aelodau o dîm llywyddol YFCU a’u clywed yn myfyrio ar eu cyfnod yn y swydd ar eu noson olaf cyn i dîm newydd gael ei ethol. Roedd yn fraint i ni, ynghyd â’r cynrychiolwyr o’r Alban, fod yn rhan o’r traddodiad hwn.

Rhan bwysig o’r gynhadledd yw’r cyfle i aelodau o bob rhan o Ogledd Iwerddon ddod at ei gilydd a chymdeithasu. Eleni, Sir Tyrone oedd yn gyfrifol am drefnu disgo nos Wener, gyda’r thema “Oops, I’m Dressed for the Wrong Event!”. O Minions a Mecsicaniaid i Baywatch a gwesteion priodas, roedd yn wych gweld pawb yn cymryd rhan a chlybiau yn cydlynu gwisgoedd tebyg!

Dechreuodd dydd Sadwrn gyda rownd derfynol Clwb y Flwyddyn YFCU, lle roedd yn rhaid i’r pum clwb oedd yn y rownd derfynol roi cyflwyniad byr yn egluro pam roedd eu clybiau’n haeddu’r teitl. Roedd pob clwb yn dangos ymroddiad arbennig i gefnogi aelodau newydd a’u cymunedau ehangach er mwyn sicrhau datblygiad parhaus y clwb. Llongyfarchiadau mawr i Randalstown YFC am ennill y teitl eleni!

Ar ôl cinio sydyn, roedd hi’n amser ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Roedd yn wych gweld cymaint o aelodau yn bresennol, yn cynrychioli eu clybiau drwy wisgo crysau clwb ac yn rhoi un ymgyrch olaf i ennill pleidleisiau i’w cyd-aelodau oedd yn sefyll ar gyfer rôl yr Is-Lywydd drwy wisgo bathodynnau a hyd yn oed ymbarelau wedi’u brandio!

Wrth i’r Cyfarfod fynd yn ei flaen, roedd yn braf clywed am y flwyddyn lwyddiannus a gafodd YFCU cyn ffarwelio â Richard Beattie ar ddiwedd ei gyfnod o ddwy flynedd fel Llywydd. Dylid diolch iddo am ei holl waith caled yn ystod y cyfnod hwn, gan ei fod wedi bod yn lysgennad gwych i’r mudiad.

Llongyfarchiadau mawr i Kristina a gweddill y Tîm Llywyddol newydd, a phob lwc iddynt ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod! Roedd hefyd yn wych gweld cymaint o ymgeiswyr cryf yn sefyll ar gyfer rôl yr Is-Lywydd eleni, pob un yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r swydd.

Yn dilyn y Cyfarfod, cafodd aelodau’r cyfle i gymdeithasu yn yr haul wrth fwynhau cerddoriaeth fyw arbennig ac awyrgylch gwych, gan ddal i fyny gyda ffrindiau hen a newydd.

Daeth y dydd i ben gyda chinio a dawns, gyda bwyd rhagorol, cwmni gwych, a phawb mewn hwyliau da ar ôl diwrnod arbennig. Un o uchafbwyntiau’r noson i mi oedd arwerthiant elusennol bychan a gynhaliwyd gan James Morrison, un o’r Is-Lywyddion newydd ei ethol, sydd hefyd yn gweithio fel arwerthwr.

Ar ôl brecwast fora Sul, roedd hi’n amser dweud hwyl fawr cyn cychwyn am adra ar ôl penwythnos gwych.

Diolch yn fawr i dîm YFCU am eu croeso a’u lletygarwch arbennig, ac i Will a Mhari, cynrychiolwyr SAYFC, am eu cwmni gwych dros y penwythnos. Roedd yn sicr yn benwythnos bythgofiadwy yn dod i adnabod pobl o’r un meddylfryd ac yn dysgu mwy am sut mae mudiadau tebyg yn gweithredu.

Byddwn yn bendant yn argymell i unrhyw un gymryd y cyfle i ymweld â digwyddiad Young Farmers’ Clubs of Ulster os cânt y cyfle — gallaf sicrhau croeso cynnes ac amser gwych.”