Newyddion CFfI Cymru

Ymddiriedolaeth Elusennol Gydfuddiannol NFU yn Cefnogi Cystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Porc C.Ff.I Cymru

Mae’n bleser gan CFfI Cymru gyhoeddi y bydd rhodd hael gan Ymddiriedolaeth Elusennol Gydfuddiannol yr NFU yn cefnogi Cystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Porc CFfI Cymru yn Ffair Aeaf Cymru 2026.

Nod y cynllun yw annog aelodau CFfI i fagu, gorffen a dangos moch. Mae’r holl ymgeiswyr llwyddiannus wedi derbyn cefnogaeth a hyfforddiant i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i sefydlu, rheoli a datblygu eu menter newydd.

Bydd y gefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Elusennol Gydfuddiannol yr NFU yn helpu CFfI Cymru i barhau i gyflawni’r gystadleuaeth werthfawr hon ac yn darparu profiadau dysgu ymarferol i aelodau sy’n cefnogi eu datblygiad personol ac amaethyddol.

Dywedodd Wil Worthington, Cadeirydd Materion Gwledig, CFfI Cymru:

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Elusennol Gydfuddiannol yr NFU am eu cefnogaeth i Gystadleuaeth Porc Prif CFfI Cymru. Bydd eu rhodd yn ein helpu i barhau i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i aelodau ddatblygu eu sgiliau, ennill profiad ymarferol a dathlu rhagoriaeth mewn cynhyrchu da byw.”

Cynhelir Cystadleuaeth Prif Cynhyrchydd Porc CFfI Cymru am 2.00pm ddydd Llun 30 Tachwedd 2026 yn Ffair Aeaf Cymru. Cysylltwch â CFfI Cymru ar 01982 553 502 neu e-bostiwch: materiongwledig@yfc-wales.org.uk os bod ganddoch ddiddordeb i gystadlu blwyddyn nesaf.