Clwb y Mis

Mis Mai 2026

Enw Clwb:
Clwb Ffermwyr Ifanc Llanbrynmair and Carno
Nifer o Aelodau:
42
Lleoliad Cwrdd:
Canolfan Gymunedol Llanbrynmair / Carno pob yn ail
Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:
Cyfeillgar, Gweithgar, Cymunedol
Hoff Weithgaredd Noson Clwb:
Tripiau fferm – Rydym wrth ein bodd yn ymweld â ffermydd lleol a dysgu am wahanol systemau amaethyddol. Eleni, aethom i ymweld â fferm Pickstock.
Cyflawniadau Codi Arian:
Pob Blwyddyn rydym yn gwerthu pabis coch i godi arian ar gyfer y Royal British Legion yn ystod Apêl y Pabi Codwyd £1,525 yn ein Cinio Clwb eleni.
Gweithio o fewn y Gymuned:
Pob blwyddyn rydym yn helpu yn ein sioeau lleol drwy stiwardio a threfnu’r adran chwaraeon i blant.
Hoff gystadlaethau:
Mae’r aelodau wrth eu bodd â diwrnod y rali, yn cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau fel cneifio, gosod blodau a gwaith coed, i enwi rhai.
Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg?
Yn ystod cyfarfodydd, mae materion yn cael eu trafod yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan fod y rhan fwyaf o’r aelodau’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Fodd bynnag, mae rhai aelodau’n dysgu Cymraeg, felly rydym yn sicrhau ein bod yn gynhwysol a bod pawb yn deall.
Unrhyw ffeithiau eraill?
Mae’r clwb yn dathlu 50 mlynedd eleni! Pen-blwydd hapus Llanbrynmair a Charno… Dathliadau i ddilyn!



