Pam cefnogi CFfI Cymru?
Mae ein holl weithgareddau, ar lefel Clwb, Sir a Chymru, yn ddibynnol ar sicrhau cyllid, ac ar gefnogaeth ein haelodau a gwirfoddolwyr.
Mae Ffederasiwn CFfI Cymru yn sefydliad bywiog sy’n grymuso pobl ifanc yn frwd i gymryd cyfrifoldeb a chwarae rhan egnïol yn eu cymunedau, tra’n annog datblygiad personol trwy ystod eang o raglenni y mae gan yr aelodau gyfrifoldeb i’w dylunio a’u rheoli. Mae’r mudiad yn cynnwys dros 4,000 o aelodau rhwng 10 a 28 mlynedd yn ogystal â miloedd lawer o gefnogwyr, gwirfoddolwyr, rhieni a ffrindiau. Amcangyfrifir bod dros 210,000 o Gymry wedi bod yn aelodau neu’n gyfranogwyr dros 80 mlynedd o hanes y sefydliad.
Er bod yr enw yn awgrymu aelodaeth o ffermwyr, mae’r CFfI yn cynrychioli pobl ifanc o bob cefndir yng nghefn gwlad Cymru.
Diolch am eich cefnogaeth – Thank you for your support