Newyddion CFfI Cymru
Cadeirydd CFfI Cymru yn Dewis Canolfan Ganser Felindre fel ei Elusen am y Flwyddyn

Mae Felindre yn darparu triniaeth, cymorth ac ymchwil canser arbenigol sydd o fudd i filoedd o bobl a theuluoedd ledled Cymru bob blwyddyn. Trwy’r bartneriaeth hon, mae CFfI Cymru yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o waith hanfodol yr elusen ac annog aelodau a chefnogwyr i gymryd rhan yng ngweithgareddau codi arian Felindre.
Drwy gydol y flwyddyn sydd i ddod, bydd aelodau’n cael eu hannog i gefnogi a chymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian, o heriau cymunedol a theithiau cerdded elusennol i ymgyrchoedd sy’n helpu i ariannu gwasanaethau canser ac ymchwil sy’n newid bywydau ledled Cymru. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth drwy glicio ar y ddolen yma; https://www.velindrefundraising.com/events/
Dywedodd Dominic Hampson-Smith, Cadeirydd CFfI Cymru:
“Mae gan Ganolfan Ganser Felindre le arbennig yng nghalonnau llawer o bobl ledled Cymru. Mae eu gwaith yn cyffwrdd â theuluoedd di-ri, ac rwy’n fawr obeithio gall CFfI Cymru chwarae rhan fach wrth gefnogi’r elusen a helpu i hyrwyddo’r cyfleoedd codi arian gwych sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.”
Mae CFfI Cymru yn edrych ymlaen at gefnogi Felindre ac annog aelodau i gymryd rhan yn nigwyddiadau’r elusen, gan helpu i godi arian hanfodol ar gyfer gofal, cymorth ac ymchwil canser yng Nghymru.
