Arall
Trip Materion Gwledig CFfI Cymru 2026 i Ogledd Iwerddon
Unwaith eto eleni mi aeth criw o aelodau Ffermwyr Ifanc Cymru ar daith Astudio yn ystod wythnosau cyntaf Hydref. 41 o aelodau ar draw Cymru fuodd ar y daith i Ogledd Iwerddon eleni, roedd hi’n braf gweld wynebau newydd ar y daith yn ogystal ag ambell un oedd wedi bod eisoes.
Dechreuodd y daith Dydd Iau yr 8fed o Hydref wrth iddynt hwy hedfan allan I Belfast a dechrau ar eu taith tua’r gorllewin at ei fferm gyntaf i ymweld â Richard ai Dad yn rhedeg y fferm yn Portadown ers tair cenhedlaeth ac yn ffermio dros 800 hectar. Ar y fferm, maent yn ymwneud â gorffen gwartheg bîff ac ŵyn stôr, tyfu grawnfwydydd a thyfu blodau, yn ogystal â bod yn rhan o broses treuliad anaerobig (AD) ar gyfer ynni adnewyddadwy. Cafodd y criw weld y system pesgu gwartheg ar storfa yd oedd yn sychu’r cnwd yn y sied yn ogystal ar brosiect arallgyfeirio newydd o dyfu blodau a oedd yn cynyddu yn sylweddol dros y misoedd nesaf gyda storfa ac uned pacio newydd yn mynd i mewn. Erbyn y noson honno roedd y criw wedi cyrraedd Omagh ar gyfer ei noson gyntaf lle wnaethent hefyd gwrdd criw o Ffermwyr Ifanc o Ulster.
Dechreuodd yr ail ddiwrnod gydag ymweliad i safle Euro Auctions yn Dromore, y safle gwreiddiol i’r busnes a chafodd ei sefydlu gan Derek Keys a’i frodyr. Cafwyd clywed ychydig am hanes y busnes o ble roedd wedi dechrau a sut mae wedi tyfu erbyn hyn i fod yn gwmni fyd eang yn gwerthu peiriannu trwy ddull Americanaidd. Dechreuodd y busnes yn 1998 ag erbyn hyn maent yn gwerthu mewn 8 gwald ar draws 4 cyfandir gwahanol.


Teithiodd y criw tuag at Antrim yn ystod y prynhawn er mwyn mynychu arwerthiant Jalex y noson honno. Aeth 280 o bennau o dan y morthwyl o fuchod a lloi i deirw gyda’r mwyafrif yn hethrod cyflo. Arwerthiant ar fferm James Alexander oedd hon lle mae’n ffermio gwartheg biff a defaid ar 600 erw.



Bore Sadwrn teithiodd y criw am y gogledd gan ymweld â dwy ffarm ddefaid, y cyntaf oedd fferm Roger a Hilary Bell ar gyrion Antrim. Roeddent yn ffermio 1,500 o ddefaid ar systemau pori cylchdro yn ogystal â gorffen gwartheg biff trwy gydol y flwyddyn. Roedd ei angerdd tuag at ymchwil ac edrych ar ddata er mwyn gwella cynhyrchiant, effeithiolrwydd ac elw yn amlwg gan ei bod yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau AgriSearch, gan gynnwys GrassCheck, Beacon Farm Network a phrosiect EIP ar borfeydd amlwreigiaeth, yn ogystal ag ARCZero. Mae eu fferm hefyd yn Fferm Arddangos Technoleg CAFRE. Roddodd y ddau bwyslais ar edrych ar ôl a gwella safon y pridd er mwyn cael y cynhyrchiant gorau allan o bob darn unigol o dir.



Yr ail fferm iddynt hwy ymweld arni ddydd Sadwrn oedd Canolfan Fferm Fynydd Cafre yn gysylltiedig gyda’r Collage of Agricultural, Food and Rural Enterpirse. Mae’r ganolfan, sydd wedi’i lleoli’n rhannol o fewn Ardal Gwarchod Arbennig yn ymestyn dros 1,000 o hectarau ac yn cynnal 100 o wartheg sugno a 1,100 o ddefaid bridio. Mae’r mentrau yng Nghanolfan Fferm y Mynydd yn dangos arferion rheoli effeithiol ar gyfer tir ucheldir a mynydd i fyfyrwyr a ffermwyr, gan ganolbwyntio ar integreiddio da Byw a rheolaeth amgylcheddol.
Cyn dychwelyd yn ôl i Belfast am y noson mi deithiodd y criw i’r gogledd i ymweld a Distyllaf Bushmills lle mae Whiskey wedi bod yn cael ei greu ers 1608. Cawsant weld y broses o sut oedd y whiskey yn cael ei greu o’r haidd yr holl ffordd drwyddo i’r broses botelu. Ar noson olaf y daith fe oedd yn rhaid cael noson gymdeithasol felly treuliodd y criw ei noson yn Belfast.


Ar fore olaf y daith fe aethant i ymweld â Fferm odro Ballybollan, ffermwyr pedwaredd genhedlaeth wedi newid i odro yn unig ers y 1980’au. Roeddent yn ffermio tua 500 cyfer gyda buches o 300 o wartheg Holstein yn lloia yn yr hydref, ei bwriad yw gorffen y lloi beef erbyn 16mis oed a’r hethrod biff erbyn 23-27 mis. Daeth y daith i ben prynhawn Dydd Sul wrth iddynt hedfan yn ôl o Belfast i Birmingham.
Rhaid diolch am y cymorth oddi wrth yr NFU Charitable Trust, mae’r cyfle yn galluogu yr aelodau i allu ymweld a ffermydd mewn gwledydd eraill yn rhoi’r cyfle iddynt ddysgu a ehangu eu gorwelion ar ôl iddyn ddychwelyd adref.







