Newyddion CFfI Cymru
Cynhadledd 5 Gwlad yn ymweld a Chymru
Ganol mis Hydref cafodd CFFI Cymru’r cyfle i groesawi unigolion o Glybiau Ffermwyr Ifanc Lloegr, Yr Alban (SAYFC), Gogledd Iwerddon (YFCU) ag Iwerddon (Macra) i Gymru Fach er mwyn cynnal y gynhadledd flynyddol. Yn ystod yr wythnos cafwyd ymweliadau addysgol, gweithgareddau diwylliannol ac anturiaethau awyr agored ynghyd ac archwilio traddodiadau Cymru, darganfod busnesau gwledig a mwynhau profiadau newydd. Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual, roedd y rhaglen yn cyfuno cyfleoedd i ddysgu a datblygu’n bersonol â gweithgareddau cymdeithasol a gynlluniwyd i annog gwaith tîm a meithrin cyfeillgarwch rhwng y cenhedloedd.
Cychwynodd y rhaglen gyda’r unigolion yn cyrraedd Glan-llyn Isa ac yn ymgyfarwyddo â’u llety cyn rhannu pryd gyda’i gilydd gyda’r nos. Roedd hyn yn gyfle i bawb ddod i adnabod ei gilydd a pharatoi ar gyfer y gweithgareddau oedd o’u blaenau.

Dechreuodd bore dydd Iau gyda chroeso swyddogol, cyn cyflwyno’r siaradwr gwadd Wyn Williams, gan roi cyfle i’r grŵp wrando ar siaradwr profiadol ym maes arweinyddiaeth. Nid oedd modd ymweld â Glan-Llyn heb rhoi’r cyfle i bawb fentro allan ar Llyn Tegid mewn gweithgaredd adeiladu rafft cyn cael tro ar saethyddiaeth.



Yn ddiweddarach, anerchodd y siaradwr gwadd Sam Carey y grŵp am ei daith ym myd amaethyddiaeth a ble mae wedi cyrraedd hyd yn hyn yn ei yrfa. Cyflwyniad ysbrydoledig iawn a oedd yn annog bob un i gymryd y cyfleoedd sy’n dod yw rhan a pheidio bod ofn cymryd risg. Y noson honno cafwyd sesiwn o ddawnsio Gwerin gan Gareth Huws i rhoi blas i bawb ar un o draddodiadau hynaf Cymru, arweiniodd hyn ymlaen at sesiwn cyflwyniadau gwledydd lle esboniodd pawb sut mae eu mudiadau nhw yn gweithio yn wahanol i’w gilydd cyn cynnig ychydig o ddanteithion o’i gwledydd i bawb.





Roedd ymweld ag amrywiaeth o fusnesau sy’n gysylltiedig â gweithgynhyrchu, amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd a mentrau gwledig yn rhan allweddol o’r rhaglen. Yr ymweliad cyntaf oedd ag Ifor Williams Trailers, lle cafodd pawb gyfle i ddysgu am fusnes gweithgynhyrchu a’r cynnyrch y mae’n ei gynhyrchu ag yn allforio ar draws y byd. Yna, ymwelodd y grŵp ag Ystâd Rhug, i ddysgu mwy am y mentrai sydd ganddynt cyn cael blasu ei cig amser cinio wrth i bawb cael byrger. Rhoddodd yr ymweliad gyfle i archwilio busnes gwledig ac ystyried rôl mentrau o’r fath yn cefnogi cymunedau lleol a’r economi ehangach.



Aethon ymlaen i Lannefydd i ymweld a Llaeth y Llan lle dysgwyd mwy am y diwydiant llaeth a chynhyrchu bwyd ac wrth gwrs roedd yn rhaid blasu’r cynnyrch cyn gadel. Parhaodd y rhaglen gydag ymweliad â Gwinllan y Dyffryn, gan gyflwyno’r grŵp i un o arallgyfeiriadau arall Cymru.
Amlygodd yr ymweliadau hyn yr amrywiaeth o fusnesau sy’n gweithredu yng nghefn gwlad Cymru a dangos sut mae gweithgynhyrchu, amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd yn cyfrannu at economïau lleol ac yn mynd law yn llaw. Roeddent hefyd yn rhoi cyfle i ddarganfod gwahanol ddiwydiannau, ehangu eu gwybodaeth a gwerthfawrogi’n well y gwaith sydd ei angen i redeg busnesau llwyddiannus.
Parhaodd bwyd a diod yn thema ganolog yn ystod rhan nesaf y rhaglen, wrth i bawb gymryd rhan yn Her Bwyd a Diod Cymru sef dyfeisio cynnyrch a sut byddent yn gwerthu’r cynnyrch i farchnad arbennig. Roedd y gweithgaredd yn dathlu cynnyrch Cymreig ac yn annog y grŵp i weld faint o gynnyrch sy’n cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru ai werthu ar draws y DU a’r Byd.


Dydd Sadwrn aeth y criw i ymweld â Zip World yn Llechwedd, lle buodd pawb yn Bounce Below ag yn chwarae Golff tanddaearol. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnig newid cyffrous o’r ymweliadau addysgol. Roeddent yn annog y cyfranogwyr i roi cynnig ar rywbeth gwahanol, magu hyder a mwynhau heriau ar y cyd mewn amgylchedd cyffrous.
Daeth y rhaglen i ben gyda noson gymdeithasol yn Bala. Gyda’i chymysgedd o ddysgu ymarferol, profiadau newydd a gweithgareddau cymdeithasol, dangosodd y rhaglen werth dod â phobl ynghyd i archwilio gwahanol ddiwydiannau a diwylliannau. Rhoddodd gyfle i bawb ddatblygu eu dealltwriaeth, darganfod diddordebau newydd a chreu atgofion a fydd yn para oes.
Diolch i’r holl siaradwyr gwadd a’r busnesau a wnaeth wneud y penwythnos yn un i gofio.












