Blog yr Aelodau

Budapest 2022

Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Megan Powell o CFfI Brycheiniog i glywed popeth am ei phrofiad ar Seminar Gwanwyn Ieuenctid Gwledig Ewrop yn Budapest.

Rydw i wastad yn derbyn cyfle i deithio i wlad dramor oherwydd ar bob taith mae cyfle i brofi diwylliant gwahanol – doedd y daith yma ddim gwahanol. Roedd y Seminar yn ddiddorol iawn a mwynheais rannu fy marn a’m meddyliau ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy. Fodd bynnag, cyfarfod â phobl o bob rhan o Ewrop, yr wyf yn ddigon ffodus i’w galw’n ffrindiau nawr, oedd yr uchafbwynt go iawn. Byddwn yn argymell 100% i wneud cais y flwyddyn nesaf – byddaf i yn sicr!