Newyddion CFfI Cymru

‘National Grid’ yn Noddi Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Lansiad Cynllun Strategol CFfI Cymru, yn ystod blwyddyn pen-blwydd 90 y mudiad.

Roedd Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wrth ei bodd i groesawu ‘National Grid’ fel Prif Noddwr ar gyfer ei Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) a Lansiad Cynllun Strategol y Mudiad, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, 12 Medi 2026, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Roedd y digwyddiad yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn hanes y mudiad, gan ddathlu 90 mlynedd o rymuso pobl ifanc ledled Cymru wledig, wrth edrych ymlaen at bennod nesaf y mudiad drwy lansio cynllun strategol newydd ar gyfer tair blynedd.

Daeth aelodau, gwirfoddolwyr, cefnogwyr, rhanddeiliaid a gwesteion o bob rhan o Gymru ynghyd yn y CCB i ddathlu llwyddiannau CFfI Cymru ac i helpu i lunio cyfeiriad y mudiad ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal âg agenda ffurfiol y CCB, cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i fwynhau prynhawn arbennig yn clywed am yr archif arbennig sy’n y Llyfrgell Genedlaethol o hanes y Mudiad.

Lansiwyd y cynllun strategol newydd yn swyddogol yn ystod y digwyddiad, yn dilyn cyfnod helaeth o fyfyrio ar effaith y mudiad. Mae’r cynllun yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod, gan ganolbwyntio ar gefnogi’r Gymraeg a diwylliant Cymru, cryfhau cymunedau gwledig, datblygu sgiliau ac addasrwydd aelodau i gyflogaeth, hyrwyddo iechyd a lles, a chynyddu cyfleoedd aelodaeth i bobl ifanc o bob cefndir.

Roedd nawdd National Grid yn dangos ymrwymiad cyffredin i gefnogi cymunedau gwledig fsy’n ffynnu, ac i fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o arweinwyr ledled Cymru.

Dywedodd Mared Jones, Prif Weithredwr CFfI Cymru:

“Wrth i ni ddathlu 90 mlynedd o’r Mudiad, roeddem yn hynod falch o groesawu National Grid fel prif noddwr y digwyddiad carreg filltir hwn. Fe wnaeth eu cefnogaeth ein helpu i gynnal CCB cofiadwy a oedd nid yn unig yn adlewyrchu ar ein hanes balch, ond a lansiodd hefyd weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Gyda’n gilydd, rydym yn rhannu ymrwymiad i gefnogi pobl ifanc, cryfhau cymunedau a sicrhau bod Cymru wledig yn parhau i ffynnu.”

Dywedodd Manon Wyn James o ‘National Grid’:

“Roedd ‘National Grid’ yn falch o gefnogi CFfI Cymru yn ystod y flwyddyn bwysig hon. Mae’r mudiad wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywydau pobl ifanc a chymunedau gwledig ledled Cymru ers 90 mlynedd. Roeddem yn falch iawn o gefnogi’r CCB a lansiad cynllun strategol a fydd yn parhau i ysbrydoli, datblygu a grymuso cenedlaethau’r dyfodol.”

Ar hyn o bryd, mae CFfI Cymru yn cefnogi mwy na 5,500 o aelodau ledled Cymru, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol, arweinyddiaeth, ymgysylltu â’r gymuned, cystadlaethau, profiadau rhyngwladol a mentrau materion gwledig. Drwy gydol ei hanes, mae’r mudiad wedi helpu cannoedd o filoedd o bobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Roedd y CCB yn rhan o raglen ehangach o ddathliadau pen-blwydd 90 y Mudiad a gynhelir drwy gydol 2026, gan ddathlu etifeddiaeth ryfeddol y mudiad a’i effaith barhaus ar Gymru wledig.