Newyddion CFfI Cymru
‘Medwn o gnydau’r Mudiad’
Eleni am y tro cyntaf, bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn cyhoeddi pamffled o waith buddugol y gadair a’r goron yn Eisteddfod CFfI Cymru. Fel y Sir sy’n gwesteio’r Eisteddfod eleni, mae aelodau o bwyllgor Ceredigion wedi cydweithio â Chyhoeddiadau’r Stamp, gan rannu’r un angerdd dros gefnogi talent ifanc a sicrhau bod awduron ifanc yn cael y llwyfan, y gydnabyddiaeth a’r cyfleoedd y maent yn eu haeddu.
Os bydd teilyngdod, bydd y gyfrol ar werth yn syth wedi’r seremoni ddwbl ar lwyfan Pafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar bnawn Sadwrn, 21 Tachwedd.
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn credu’n gryf fod llenorion ifanc nid yn unig yn haeddu cael eu dathlu a’u gwobrwyo am eu haddewid, ond yn haeddu darllenwyr i’w gwaith, a chyfleoedd i gyhoeddi. Bu modd i ni gynnig y pethau hynny yn achos prif enillwyr llenyddol Eisteddfod yr Urdd ers rhyw dair blynedd bellach, ac rydym yn dra diolchgar i aelodau a swyddogion CFfI Ceredigion, sy’n gwesteio Eisteddfod CFfI Cymru eleni, am ein gwahodd i drafod a gwireddu eu syniad o gyhoeddi’r gweithiau buddugol.
Yr artist o Langwyryfon, Sara Lleucu, sydd wedi ei chomisiynu i greu gwaith celf ar gyfer y clawr.
Gan mai gwasg annibynnol, wirfoddol yw Cyhoeddiadau’r Stamp, rydym bob amser yn gofyn i’r sawl sydd â’r modd ystyried rhagarchebu ein cyfrolau er mwyn helpu gyda’r costau cynyddol o gynhyrchu a chyhoeddi deunydd print.
Trwy ragarchebu copi caled, byddwch hefyd yn derbyn PDF drwy e-bost o’r gwaith buddugol, yn syth wedi i enwau’r enillwyr gael eu cyhoeddi o lwyfan yr eisteddfod.
Mae rhagarchebion Cerdd y Gadair a Rhyddiaith y Goron bellach ar agor yma:
Eisteddfod CFfI Cymru, Ceredigion 2026 (teitl i’w gadarnhau)
CFfI Cymru / CFfI Ceredigion / Cyhoeddiadau’r Stamp 2026
ISBN / c24t. / £6.00
Celf y clawr: Sara Lleucu
*dalier sylw: yn yr achos prin o ddiffyg teilyngdod, ad-delir pob rhagarcheb yn llawn.

