Newyddion CFfI Cymru
Cynhadledd 5 Gwlad yn ymweld a Chymru
Ganol mis Hydref cafodd CFFI Cymru y cyfle I groesawi unigolion o Clybliau Ffermwyr Ifanc Lloegr, Gogledd Iwerddon ag Iwerddon i Gymru Fach er mwyn cynnal y gynhadledd flynyddol. Yn ystod yr wythnos cafwyd ymweliadau addysgol, gweithgareddau diwylliannol ac anturiaethau awyr agored ynghyd a archwilio traddodiadau Cymru, darganfod busnesau gwledig a mwynhau profiadau newydd. Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual, roedd y rhaglen yn cyfuno cyfleoedd i ddysgu a datblygu’n bersonol â gweithgareddau cymdeithasol a gynlluniwyd i annog gwaith tîm a meithrin cyfeillgarwch rhwng y cenhedloedd.
Dechreuodd y rhaglen gyda’r unigolion yn cyrraedd Glanllyn Isa ac yn ymgyfarwyddo â’u llety cyn rhannu pryd gyda’i gilydd gyda’r nos. Roedd hyn yn gyfle i bawb ddod i adnabod ei gilydd a pharatoi ar gyfer y gweithgareddau oedd o’u blaenau.

Dechreuodd y bore dydd Iau gyda croeso swyddogol, cyn cyflwyno’r siaradwr gwadd Wyn Williams, gan roi cyfle i’r grŵp wrando ar siaradwr profiadol ym maes arweinyddiaeth. Nid oedd modd ymweld a Glan Llyn heb rhoid cyfle I bawb fentro allan ar Lyn Tegid mewn gweithgaredd adeiladu rhafft cyn cael tro ar saethyddiaeth hefyd.



Yn ddiweddarach, anerchodd y siaradwr gwadd Sam Carey y grŵp am ei daith ym myd amaethyddiaeth a ble mae wedi cyrraedd hyd yn hyn yn ei yrfa. Cyflwyniad ysbridoledig iawn a oedd yn annog bob un I gymryd y cyfleoedd sy’n dod yw rhan a peidio bod ofn cymryd risg. Y noson hono cafwyd sesiwn o ddawnsio Gwerin gan Gareth Huws I rhoi blas I bawb ar un o draddodiadau hynaf Cymru, arweiniodd hyn ymlaen at sesiwn cyflwyniadai gwledydd lle esboniodd pawb sut mae mudiadau nhw yn gweithio yn whanol yw gilydd cyn cynnig ychydig o ddanteithion o’I gwledydd I bawb.





Roedd ymweld ag amrywiaeth o fusnesau sy’n gysylltiedig â gweithgynhyrchu, amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd a mentrau gwledig yn rhan allweddol o’r rhaglen. Yr ymweliad cyntaf oedd ag Ifor Williams Trailers, lle cafodd pawb gyfle i ddysgu am fusnes gweithgynhyrchu a’r cynnyrch y mae’n ei gynhyrchu ag yn allforio ar draws y byd. Yna, ymwelodd y grŵp ag Ystâd Rhug, i ddysgu mwy am y mentrai sydd ganddynt yna cyn cael blasu ei cig amser cinio wrth I bawb cael byrger. Rhoddodd yr ymweliad gyfle i archwilio busnes gwledig ac ystyried rôl mentrau o’r fath yn cefnogi cymunedau lleol a’r economi ehangach.



Symudon ymlaen nesaf i Laeth y Llan lle dysgwyd mwy am y diwydiant llaeth a chynhyrchu bwyd ag wrth gwrs roedd yn rhaid blasu’r cynnyrch cyn gadael. Parhaodd y rhaglen gydag ymweliad â Gwinllan y Dyffryn, gan gyflwyno’r grŵp i un o arallgyfeiriadau amrhywiol Cymru.
Amlygodd yr ymweliadau hyn yr amrywiaeth o fusnesau sy’n gweithredu yng nghefn gwlad Cymru a dangos sut mae gweithgynhyrchu, amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd yn cyfrannu at economïau lleol ac yn mynd law yn llaw. Roeddent hefyd yn rhoi cyfle i ddarganfod gwahanol ddiwydiannau, ehangu eu gwybodaeth a gwerthfawrogi’n well y gwaith sydd ei angen i redeg busnesau llwyddiannus.
Parhaodd bwyd a diod yn thema ganolog yn ystod rhan nesaf y rhaglen, wrth i’r bawb gymryd rhan yn Her Bwyd a Diod Cymru sef dyfeisio cynnyrch a sut byddent yn gwerthu’r cynnyrch hwnw I farchnad arbennig. Roedd y gweithgaredd yn dathlu cynnyrch Cymreig ac yn annog y grŵp I weld fiant o gynnyrch sy’n cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru ai werthu ar draws y DU a’r Byd.


Dydd Sadwrn aeth y criw I ymweld â Zip World yn Llechwedd, lle buodd pawb yn Bounce Below ag yn chwarae Golff tanddearol. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnig newid cyffrous o’r ymweliadau addysgol. Roeddent yn annog y cyfranogwyr i roi cynnig ar rywbeth gwahanol, magu hyder a mwynhau heriau ar y cyd mewn amgylchedd cyffrous.
Daeth y rhaglen i ben gyda noson gymdeithasol yn Bala. Gyda’i chymysgedd o ddysgu ymarferol, profiadau newydd a gweithgareddau cymdeithasol, dangosodd y rhaglen werth dod â phobl ynghyd i archwilio gwahanol ddiwydiannau a diwylliannau. Rhoddodd gyfle i’r bawb ddatblygu eu dealltwriaeth, darganfod diddordebau newydd a chreu atgofion a fydd yn para oes.












