Newyddion CFfI Cymru

Cwrs Ysgrifennu CFfI Cymru

Ar yr 8fed o Fedi daeth naw aelod o glybiau ffermwyr ifanc dros Gymru gyfan at ei gilydd i fynychu cwrs ysgrifennu yn Nhŷ Newydd dan arweiniad yr awduron Anni Llyn a Bethan Gwanas. Cafwyd diwrnod hyfryd gyda bore llawn gweithgareddau storia a barddoni. Ar ôl cinio bendigedig gan gogyddion Tŷ Newydd, manteisiodd y grŵp ar soffas clud y llyfrgell  fel hafan i ymchwilio syniadau a ddatblygwyd yn y sesiwn bore yn ddyfnach, gyda phawb yn adrodd yn ôl i’r grŵp ac yn trafod heriau’r byd ysgrifennu’n greadigol. I orffen y dydd cawsom baned a sgwrs am beth sy’n gwneud y mudiad yn un unigryw a chwarae’r gêm ‘Beth fyddech chi byth yn clywed mewn Clwb Ffermwyr Ifanc?’

Dyma’r trydydd sesiwn ysgrifennu yn y gyfres sydd wedi cael ei hariannu gan Gyngor Llyfrau Cymru ac mae wedi bod yn bleser gweld datblygiad sgiliau aelodau dros y flwyddyn a gweld cynnyrch eu gwaith.

Wrth i ni gasglu’r gwaith at ei gilydd ac archwilio camau nesaf, rydym yn chwilio am ddylunydd i ymuno a’r prosiect. Wyt ti yn, neu yn adnabod rhywun sy’n gysylltiedig â’r mudiad sy’n mwynhau dylunio a gyda diddordeb i weithio ar brosiect newydd? Cysylltwch ag Elliw, y swyddog sy’n cydlynu’r prosiect ar: swyddogcymraeg@yfc-wales.org.uk  i ddysgu mwy.

Diolch o waelod calon i Bethan ac Anni am eu gwaith fel tiwtoriaid ar y prosiect. Diolch hefyd i Dŷ Newydd a Llenyddiaeth Cymru am roi defnydd o’r lleoliad bendigedig i ni ac i Gyngor Llyfrau Cymru  am alluogi’r prosiect i ddigwydd.

Os ydych chi’n aelod efo diddordeb mewn ysgrifennu’n greadigol ac eisiau fod yn rhan o’r prosiect, mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda swyddogcymraeg@yfc-wales.org.uk i ddysgu mwy.