MATERION GWLEDIG

Mae’r Pwyllgor Materion Gwledig yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i aelodau

Dysgwch yr hanfodion sydd eu hangen i redeg menter moch llwyddiannus gyda’r gystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Porc. Dangoswch eich lloi a’ch ŵyn yn y Ffair Aeaf gyda’r Cystadlaethau Biff Ifanc a Chystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Cig Oen. Dewch i ymweld â mentrau amaethyddol ledled y wlad gyda chyd-aelodau CFfI Cymru yn ystod Taith Astudio Materion Gwledig. Manteisiwch ar y cyfleoedd presennol fel Menter Wyn CFfI Cymru, neu fod â siawns o ennill beic cwad gyda’r Her ATV. Manteisiwch ar ostyngiadau CFfI unigryw ar gyfer cyrsiau cneifio a thrin gwlân gyda British Wool neu 5% oddi ar feiciau cwad gyda CFMOTO. Dathlwch bopeth amaethyddiaeth yn ystod Cynhadledd Amaeth CFfI Cymru a Gwobrau Amaeth – Allwch chi fod yr enillydd nesaf?

Ynglŷn â’r Her

Bydd CFfI Cymru yn cynnal cystadleuaeth blynyddol y Ffair Aeaf, sef Her ATV, wedi’i noddi’n garedig gan Quad Bikes Wales. Dewch draw i weld aelodau CFfI Cymru yn arddangos eu sgiliau diogewlch wrth weithredu ATV o amgylch cwrs wedi’i bennu gan Quad Bikes Wales.

Pam y dylech chi gymryd rhan?

Bydd yr enillydd lwcus yn ennill defnydd o Honda ATV newydd sbon wedi’i noddi gan Quad Bikes Wales, a bydd helmed yn cael eu cyflwyno i’r rhai yn yr ail a’r trydedd safle.


GWOBRAU AMAETH

Mae Gwobrau Amaeth CFfI Cymru yn dathlu pob peth amaeth.

ALLECH CHI FOD YN EIN HENILLWYR NESAF?


TAITH ASTUDIO MATERION GWLEDIG

Bob blwyddyn mae’r Pwyllgor Materion Gwledig yn trefnu Taith Astudio fel rhan o’u rhaglen flynyddol.

2023

Rhwng 13 ac 16 Hydref 2023, teithiodd 45 aelod i Ogledd Iwerddon ar gyfer taith astudio flynyddol Materion Gwledig CFfI Cymru. Magheraknock Herefords, Rowandale Farm a Corries Livestock yn enwi dim ond ychydig o’r ffermydd yr ymwelwyd â nhw.

Cliciwch ar y botwm isod i ddarllen blog gan Angharad Thomas, Cadeirydd Materion Gwledig 2023-2024 i glywed popeth am y daith.


2022

Ar y 14eg o Hydref 2022, aeth 35 aelod o CFfI Cymru i Cumbria ar y Taith Astudio Materion Gwledig cyntaf ers 2019. Cychwynnodd aelodau o Ynys Môn yr holl ffordd i lawr i Forgannwg ar y daith i’r gogledd.

Cliciwch ar y botwm isod i ddarllen blog gan Dewi Davies, Cadeirydd Materion Gwledig 2022-2023 i glywed popeth am y daith.


CYFLEOEDD PRESENNOL


CEFNOGAETH

This image has an empty alt attribute; its file name is FarmWellWales-TwitterGraphic_MARCH-30_Morning-2-1024x576.jpg
Croeso i FarmWell Wales – y cyfeiriadur gwybodaeth a chymorth diweddaraf i helpu ffermwyr a’u busnesau fferm i aros yn wydn drwy adegau o newid ac anwadalrwydd. Ewch i’r dudalen isod.