GWOBR PENCAMPWR GWLEDIG


2025 – SIAN LEWIS

ae Sian Lewis yn aelod o CFfI Llanfyllin ag yn gweithio ar ei fferm deuluol llawn amser, maent yn ffermio biff, llaeth a defaid ac wedi gwneud ar hyd ei hoes. Does dim eiliad o’r dydd yn mynd heibio lle dydy hi ddim yn meddwl am sut i wella rhediad y fferm a sut i ennyn diddordeb aelodau ifanc CFfI gan gynnwys unigolion sydd ddim yn dod o gefndir amaethyddol. Ochr yn ochr â’i swydd bob dydd a gwaith CFfI, mae wedi bod yn ysgrifennydd sioe Llanfyllin dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae’r sioe wedi bod yn rhan enfawr o’i bywyd hi a’i theulu ag hi yw’r ysgrifennydd ieuengaf ers cychwyn y Sioe 155 o flynyddoedd yn ôl. Mae Sian yn trefnu digwyddiadau codi arian i godi arian ar gyfer elusennau lleol, megis yr Ysbyty Orthopedig lleol ac Ymddiriedolaeth Canser Lingen Davies. Mae’r fferm wedi bod yn rhan o fenter sy’n gysylltiedig ag ysgolion yn ddiweddar lle mae plant sy’n gweld bywyd ysgol yn heriol neu sydd wedi cael heriau yn eu bywydau, yn dod i helpu ar y fferm bob dydd Mawrth. Mae’n teimlo wrth fod yn rhan o hyn mae’n caniatáu iddi roi nôl i’r gymuned sydd wedi rhoi cymaint iddi hi.


2024 – MEGAN POWELL

Daw Megan Powell o gefndir ffermio ond nid oedd ei rhieni’n mynd ati i ffermio pan oedd hi’n tyfu i fyny, felly yn ystod ei chyfnod fel aelod CFfI, mae hi wedi manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo ei gwerthfawrogiad a’i dealltwriaeth o’r sector amaethyddol a materion sy’n effeithio ar gymunedau gwledig. Trwy fudiad CFfI, mae Meg wedi codi arian i elusennau gwahanol gan gynnwys dringo tri chopa uchaf Powys mewn 12 awr ac ymuno â’i Chadeirydd Sir y llynedd yn beicio o amgylch Brycheiniog ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a Sefydliad DPJ. Mae Meg yn credu bod y sector amaethyddol yn hanfodol i wead bywyd gwledig a chymunedau ac yn ariannu datblygu gwledig. Mae mentrau amaethyddiaeth a ffermio lleol yn lwyfan ac yn hwb incwm i gymunedau gwledig ffynnu, gan gefnogi amaethyddiaeth ym Mhrydain rydech chi’n darparu incwm i gymunedau gwledig wella a chynnal lles y bobl sy’n byw ynddynt.