Newyddion CFfI Cymru

Ymunwch â Bwrdd Ymddiriedolwyr CFfI Cymru

Mae CFfI Cymru yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr a chwarae rhan bwysig wrth lunio dyfodol ein sefydliad. Mae’r Bwrdd yn darparu arweinyddiaeth, cyfeiriad a chefnogaeth i sicrhau bod CFfI Cymru yn parhau i dyfu, datblygu a darparu cyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru. Rydym bellach yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y swyddi canlynol:

• Cadeirydd y Bwrdd
• Cynrychiolydd Aelodau CFfI
• Aelodau Annibynnol (x2)

P’un a ydych yn aelod presennol o CFfI, yn gyn-aelod, neu’n rhywun sydd â’r sgiliau a’r profiad i gefnogi ein sefydliad, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Mae ymuno â’r Bwrdd yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, rhannu eich arbenigedd a helpu i ddylanwadu ar gyfeiriad CFfI Cymru yn y dyfodol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12:00yp ddydd Llun 17 Awst. Am fanylion pellach neu i ofyn am becyn cais, cysylltwch â accounts@yfc-wales.co.uk