Newyddion CFfI Cymru
Rhodd o gloc i nodi Penblwydd CFfI Cymru yn 90 mlwydd oed.
Fel rhan o’i ddathliadau pen-blwydd CFfI Cymru yn 90, fe dderbyniodd CFfI Cymru y rhoff o gloc coffa, a gyflwynwyd fel teyrnged barhaol i naw degawd o’r mudiad. Mae’r cloc wedi’i roi’n garedig gan Gruff Rees Evans o Dylunio G.R.E Designs a hoffem ddiolch yn ddiffuant i Gruff am ei rodd garedig i’r mudiad. Rhoddodd Gruff rodd debyg i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 2024 pan oedd Ceredigion yn sir nawdd.
Mae’r cloc yn symboleiddio treigl amser ac yn cydnabod ymroddiad, ymrwymiad a chyflawniadau’r miloedd o aelodau, gwirfoddolwyr a chefnogwyr sydd wedi cyfrannu at lwyddiant CFfI Cymru ers ei sefydlu ym 1936.
Cynhaliwyd y dadorchuddio brynhawn Sul yn dilyn lansiad y Sengl, a Angharad Thomas, Cadeirydd CFfI Cymru oedd yn dadorchuddio’r cloc ar ran Staff a Swyddogion CFfI Cymru. Bydd yn cael ei arddangos yn falch fel atgof parhaol o’r garreg filltir arwyddocaol hon a’r cenedlaethau o bobl ifanc y mae eu bywydau wedi’u llunio trwy eu cyfranogiad yn CFfI Cymru.
