Newyddion CFfI Cymru

Mae CFfI Cymru yn falch i gydweithio gydag Achub Bywyd Cymru i Hybu Ymwybyddiaeth o CPR a Mynediad at Ddiffibrilwyr.

Mae CFfI Cymru yn falch o gyhoeddi cydweithrediad cyffrous ac achub bywydau gyda Achub Bywyd Cymru, gan gryfhau ein hymrwymiad ar y cyd i wella ymwybyddiaeth o CPR a mynediad at offer achub bywyd hanfodol ar draws cymunedau gwledig.

Fel rhan o’r bartneriaeth hon, mae CFfI Cymru wedi derbyn diffibriliwr, yn rhodd hael gan ‘Achub Bywyd Cymru’, sydd bellach wedi’i osod ar flaen Canolfan CFfI Cymru. Mae hwn yn ychwanegiad gwerthfawr i’n hadeilad, gan ddarparu mwy o ddiogelwch yn ystod digwyddiadau mawr.

Ond nid yw’r effaith yn gorffen yno.

Mewn cam ysbrydoledig i ymgysylltu ac addysgu aelodau, mae Achub Bywyd Cymru hefyd wedi darparu diffibriliwr ychwanegol yn wobr i glybiau CFfI Cymru gystadlu amdan. Nod y fenter hon yw annog addysg ac ymwybyddiaeth CPR ymhlith ffermwyr ifanc ledled Cymru, gan sicrhau bod mwy o gymunedau wedi’u paratoi i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol mewn argyfwng cardiaidd. Mae’n gam pwerus ymlaen wrth adeiladu cymunedau mwy diogel lle mae pob eiliad yn cyfrif.

Yn Lansio ar 1af Mehefin: Cystadleuaeth Fideo CPR

O’r 1af Mehefin, bydd CFfI Cymru yn lansio cystadleuaeth sy’n agored i bob aelod. Bydd clybiau’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymgyrch a gynlluniwyd i ledaenu gwybodaeth achub bywyd ar draws y Mudiad.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau gyda fideo arddangos CPR yn cael ei rannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol CFfI Cymru, yn dangos sut i gyflawni CPR a phwysigrwydd gweithredu’n gyflym mewn argyfwng.

Yna, bydd aelodau’n cael eu hannog i rannu’r fideo ar eu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eu hunain. Gofynnir i gefnogwyr lenwi ffurflen fer ar-lein a phleidleisio dros y clwb yr hoffent ei weld yn ennill y diffibriliwr.

Bydd y clwb gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau yn ennill diffibriliwr ar gyfer eu clwb.

Pam Mae Hyn yn Bwysig

Gall ataliad ar y galon ddigwydd i unrhyw un, unrhyw le, unrhyw bryd. Yn enwedig mewn cymunedau gwledig, gall mynediad at ddiffibriliwr a hyder i gyflawni CPR wneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd.

Mae’r ymgyrch hon yn ymwneud â mwy na chystadleuaeth – mae’n ymwneud ag addysg a grymuso pobl ifanc gyda’r hyder i weithredu pan mae hynny’n bwysicaf.

Drwy’r bartneriaeth hon gydag ‘Achub Bywyd Cymru’, mae CFfI Cymru yn falch o helpu i sicrhau bod sgiliau ac offer achub bywyd yn cael eu defnyddio, eu rhannu a’u deall ar draws ein cymunedau.

Cymerwch Rhan

Rydym yn annog pob aelod i gymryd rhan a helpu i ledaenu’r neges hanfodol hon. P’un ai ydych yn gwylio, yn rhannu, yn dysgu CPR, neu’n pleidleisio dros eich hoff glwb, gallai eich cyfraniad helpu i achub bywyd yn y dyfodol.

Gyda’n gilydd, gallwn wneud Cymru yn genedl o achubwyr bywyd hyderus.