Newyddion

Datgloi dy botensial gyda CFfI Cymru

O iaith y cariadon, i hêr-straeon; bwtsiera i fywyd myfyrwyr – mae CFfI Cymru yn lansio gwasanaeth newydd ac unigryw i’w haelodau, yn rhad ac am ddim.

Yn lansio ddydd Llun 15fed o Fawrth bydd aelodau CFfI yn cael eu blas cyntaf o nosweithiau clwb Covid-19, gyda gweithdy cyntaf ‘Datgloi dy botensial’.

Bydd y gweithdy cyntaf yn cael ei harwain gan y cigydd o fri, Mr Rob Rattray, gyda’r aelodau’n cael cyfle i ddysgu sut i dorri a pharatoi carcas cig oen.

Ymhlith y gweithdai a cheir eu cynnal maes o law mae;

‘Triciau dod i’r brig’ gan Sionedd Hughes, enillydd nifer o gystadlaethau gosod blodau ar draws Prydain; a

Llinos Foulkes, perchennog Cacennau’r Llys sy’n dysgu addurno cacennau.

I’r aelodau hynny sydd yn mwynhau sialens, yna mae gan CFfI weithdai i bawb

Mae noson i herio’r meddwl wedi’i drefnu gyda’n partneriaid, Dŵr Cymru, ar y cardiau fel rhan o’r tymor cyntaf o weithdai ‘Datgloi’ch potensial’. Bydd yr aelodau’n cael eu herio i ystyried effeithlonrwydd dŵr, a ffactorau a fyddai o fudd i’w cartrefi a’u ffermydd mewn perthynas â dŵr. Bydd pynciau trafod yn cynnwys awgrymiadau arbed arian ac ystyried canllawiau cyfredol NVZ – sesiwn sy’n sicr o danio syniadau ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr Cymru.

I gael mwy o wybodaeth am y gweithdai ‘Datgloi dy botensial’ ewch draw i’r wefan, a chofrestrwch eich diddordeb heddiw ar cffi.cymru/sesiynau-cffi

Sesiynau CFfI