Blog yr Aelodau

Crynodeb o weithgareddau y Materion Gwledig!

Dewch i glywed yr hyn sydd gan Dominic Hampson-Smith, Cadeirydd newydd Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru ei ddweud ynglyn a’r cyfleoedd sydd gan y Pwyllgor Materion Gwledig i’w cynnig i aelodau CFfI dros y misoedd nesaf!


Cystadleuaeth Bîff Ifanc a Prif Gynhyrchydd Ŵyn

Ydych chi erioed wedi cystadlu yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru? Hoffech chi roi cynnig arni? Beth am gystadlu yng Nghystadleuaeth y Bîff Ifanc neu Prif Gynhyrchydd Ŵyn CFfI Cymru?

I gystadlu yng nghystadleuaeth Bîff Ifanc CFfI Cymru, bydd angen i chi arddangos llo bîff dim trymach na 425KG. Rhennir dosbarth CffI Cymru yn heffrod a bustych, gyda phencampwr yn y ddau yn gymwys i gystadlu ym Mhencampwriaeth Bîff Ifanc y Ffair Aeaf. Bydd y lloi yn cael eu harddangos fore dydd Mawrth yn dilyn dosbarthiadau agored y Bîff Ifanc. Os nad ydych am fentro i gylch y gwartheg beth am roi cynnig ar gystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Ŵyn CFfI Cymru? Yma bydd angen i chi gynhyrchu pâr o ŵyn heb fod yn drymach na 110kg gyda’i gilydd. Gallai’r ŵyn fod o unrhyw frîd ucheldir cynhenid pur, frîd iseldir cynhenid pur neu frîd cyfandirol pur. Bydd yr ŵyn yn cael eu harddangos brynhawn dydd Llun wedi’u rhannu i’r tri dosbarth uchod. 

Fel rhan o’r ddwy gystadleuaeth, gofynnwn i aelodau gynhyrchu bwrdd arddangos yn cynnwys manylion am yr anifail gan gynnwys manylion y brid, cynnydd pwysau dyddiol, gwybodaeth am borthiant a hwsmonaeth gyffredinol. 

I gymryd rhan yng nghystadlaethau y Bîff Ifanc neu Prif Gynhyrchydd Ŵyn CFfI Cymru, ewch i wefan y Sioe Frenhinol a chofrestrwch ar wefan Ffair Aeaf Frenhinol Cymru fel y byddech yn ei wneud i gymryd rhan yn unrhyw un o gystadlaethau agored Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.


Her ATV CFfI Cymru

Os nad yw’r cyfleoedd uchod i chi beth am gymryd rhan yn ein her ATV yn y Ffair Aeaf. Byddwch yn cystadlu ar gwrs ac yn llenwi holiadur gyda chyfle i ennill defnydd o Feic ATV am flwyddyn trwy nawdd caredig Quad Bike Wales.


Menter Ŵyn CFfI Cymru

Cyfle gwych arall sydd gan CFfI Cymru i’w gynnig i aelodau yw’r Cynllun Ŵyn. Mae’r Cynllun Ŵyn yn bartneriaeth rhwng CFfI Cymru, Dunbia (Llanybydder) a Sainsbury’s. Rhoddir bonws o bunt i aelodau ar bob oen sy’n cyrraedd y fanyleb. Ar ben hyn mae Sainsbury’s hefyd yn rhoi 40c i CFfI Cymru gyda’r cyfraniad yn mynd yn ôl i sir yr aelod. Mae canolfannau casglu ledled Cymru sy’n galluogi bob aelod i fod yn rhan o’r cynllun hwn. Mae’r cynllun yn galluogi unigolion hyd at 40 oed i gyflenwi wyn i’r Cynllun Ŵyn a hawlio’r buddion ond bydd gofyn i’r unigolyn fod yn aelod cyswllt o’r mudiad.

I gael gwybod mwy am y Cynllun Ŵyn, cysylltwch â CFfI Cymru ar materiongwledig@wales-yfc.org.uk neu ffoniwch 07852 715 379 am rhagor o wybodaeth.


Gwobrau Amaeth CFfI Cymru

Newyddion cyffrous arall sydd gennym i rhannu yw bod Gwobrau Amaeth CFfI Cymru yn dychwelyd am yr ail flwyddyn gyda dwy wobr newydd, gwobr Pencampwr Iechyd Meddwl a gwobr Stocmon Llaeth Cynaliadwy. Mae gwobrau llynedd hefyd ar gael i’w hennill eleni eto, sef gwobr Cynhyrchydd Stoc y Flwyddyn, Rheolaeth Glaswelltir Gorau, Gwobr yr Arallgyfeiriad Gorau a’r Pencampwr Gwledig. I wneud cais am unrhyw un o’r chwe gwobr, cliciwch ar y botwm isod. Bydd ceisiadau’n cau ddydd Sul 20fed o Hydref.

Cynhelir Gwobrau Amaeth CFFI Cymru 2025, nos Sadwrn 11eg o Ionawr 2025 ar Fferm Rosedew, Llanilltud Fawr, noson Cynhadledd Amaeth CFfI Cymru. Bydd Tocynnau a Llety ar werth yn fuan.


Prif Gynhyrchydd Porc CFfI Cymru

Hoffai’r Pwyllgor Materion Gwledig longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Porc eleni. Edrychwn ymlaen at ddilyn eich teithiau magu moch dros yr wythnosau nesaf ac i’ch gweld yn eu harddangos yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddiwedd mis Tachwedd. I ddarganfod mwy am gystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Porc ac i weld ein saith aelod yn y rownd derfynol, cliciwch ar y ddolen isod.