Arall

Clwb y Mis – Mehefin 2026

Mehefin 2026

Enw y Clwb:

CFfI Rhosybol

Nifer o Aelodau:

46

Lleoliad Cwrdd:

Ysgol Rhosybol

Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:

Cyfeillgarwch, Cymuned, Perthyn

Hoff Weithgaredd Noson Clwb:

Ymweld â rhai o ffermydd yr ardal.

Cyflawniadau Codi Arian:

Rydym yn cynnal nifer o nosweithiau yn cynnwys talentau o’n clwb ni. Rydym yn hynod o falch o allu gwneud nosweithiau fel hyn yn aml er mwyn codi arian i fuddsoddi nôl yn y clwb ac i’n haelodau ac ar yr un pryd yn dod â’r gymuned leol ynghyd.

Gweithio o fewn y Gymuned:

Rydym yn cynnal digwyddiadau fel cyngherddau, digwyddiadau fel helfa drysor, ac mae nifer o’n haelodau hefyd yn gwirfoddoli yn ehangach gyda sefydliadau eraill o fewn y gymuned fel Theatr Fach Llangefni a’r Urdd hefyd.

Hoff gystadlaethau:

Mae ein clwb yn mwynhau gweithgareddau’r Eisteddfod yn flynyddol ac mae’n haelodau yn cael llwyddaint mawr bob blwyddyn.

Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg?

Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n clwb arbennig ni, gyda’r Gymraeg yn rhan o’n holl weithgareddau. Rydym hefyd yn annog aelodau sy’n dysgu’r iaith drwy roi cyfleodd iddyn nhw ddysgu yn y clwb drwy weithgareddau amrywiol.

Rydym hefyd yn ymfalchïo yn ein traddodiadau Cymreig gyda Chadair a Choron Eisteddfodau CFFI Cymru wedi dod nôl i Rosybol sawl gwaith erbyn hyn.

Unrhyw ffeithiau eraill?

Clwb Rhosybol ydi clwb mwyaf gogleddol Cymru, rydym yn hynod o falch o’n clwb a’n cymuned.