Newyddion CFfI Cymru
CFfI Cymru yn Dathlu Pen-blwydd yn 90 oed gyda Digwyddiad Arbennig yn Sioe Frenhinol Cymru
Roedd CFfI Cymru yn falch iawn o berfformiad arbennig oedd yn nodi pen-blwydd y mudiad yn 90 oed. Roedd yn fraint aruthrol cael y cyfle i goffáu’r garreg filltir hanesyddol hon drwy gyflwyno cynhyrchiad oedd yn crynhoi naw degawd o fywyd, cyflawniadau ac etifeddiaeth y mudiad. Ac i wneud hynny yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol, ar un o lwyfannau mwyaf eiconig Cymru – y Prif Gylch – yn gwneud yr achlysur yn fwy arbennig fyth.
Fe ddaeth aelodau o bob sir yng Nghymru ynghyd i gymryd rhan yn y cynhyrchiad, gan arddangos cryfder, amrywiaeth a thalent y mudiad. Dros y naw degawd diwethaf, mae CFfI Cymru wedi rhoi cyfleoedd unigryw i filoedd o bobl ifanc ddatblygu sgiliau, magu hyder, gwneud ffrindiau oes a chreu atgofion gwerthfawr.
Yn ogystal â’r cyfleoedd i’w haelodau, mae’r mudiad yn chwarae rhan allweddol yn ein cymunedau gwledig ledled Cymru, gan feithrin gwirfoddoli, arweinyddiaeth a chyfraniad cadarnhaol i fywyd cymunedol. Roedd y perfformiad hwn yn dathlu nid yn unig hanes balch y mudiad, ond hefyd ei ddyfodol disglair.
Diolch o galon i bawb a gyfrannodd at wneud Gorymdaith Dathlu Pen-blwydd 90 mlynedd CFfI yn achlysur mor arbennig.
Diolch yn arbennig i’n Cyfarwyddwr a’n Cynhyrchwyr, Delme Harries ac Amanda Harries, am eu gweledigaeth, eu hymroddiad a’u gwaith caled. Diolch hefyd i Bill Davies am ei holl gymorth gyda chreu’r trac sain, ac i Esyllt Griffiths ac Eirlys Davies am fod wrth law bob amser i helpu.
Diolch yn fawr hefyd i gwmnioedd Pickstock, T. Alun Jones & son, Cardi Cranks, Trem y Wyddfa ac Ash End House Children’s Farm am eu caredigrwydd wrth ddarparu’r tractorau, pick-ups a’r anifeiliaid a wnaeth y parêd yn un mor arbennig.


Yn ysbryd gwirioneddol CFfI, daeth pawb at ei gilydd i greu gorymdaith gofiadwy i ddathlu 90 mlynedd o’r Mudiad. Roedd CFfI Cymru mor falch i groesawu cynulleidfa wych i’r Prif Gylch i ymuno yn y dathliadau ac i brofi drostynt eu hunain – talent, ymrwymiad a’r ymdeimlad o gymuned sydd wedi bod wrth galon y mudiad ers 90 mlynedd.








