Blog yr Aelodau
Antur Fawr Japan Gwenllian

Yn ddiweddar, cefais y cyfle anhygoel i deithio i Japan gyda CFfI Cymru. A hon oedd fy nhrydedd taith gyda’r mudiad! Mae pob taith wedi bod yn arbennig, ond mae’r un hon wir wedi sefyll allan, ac alla i ddim aros i weld ble fydd y daith nesaf yn mynd â ni.
Roedd 16 ohonom ar y daith, ac o’r dechrau cyntaf yn Tokyo hyd at y diwedd yn Osaka, roedd hi’n antur llawn hwyl, chwerthin ac atgofion bythgofiadwy. O grwydro strydoedd prysur Tokyo i ymweld â themlau tawel Kyoto ac yna profi hanes pwerus Hiroshima, roedd pob diwrnod yn dod â rhywbeth newydd ac arbennig.
Fel un o arweinwyr y daith eleni, roedd gen i dipyn mwy o gyfrifoldeb, o wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod ble oedden ni’n mynd, i fod yn gyfrifol am y map a sicrhau bod y criw i gyd yn cyrraedd o A i B! Roedd hyn yn brofiad gwych ac wedi helpu i wella fy sgiliau annibyniaeth a threfnu yn aruthrol (hyd yn oed os oedd ambell dro bach o fynd ar goll!).
Wrth gwrs, nid dim ond teithio oedd y daith, roedd hi’n llawn profiadau unigryw. Un o’r uchafbwyntiau oedd mynd i weld sumo, ac roedd yn wych gweld Will ac Owen yn cael cyfle i roi cynnig arni yn erbyn y proffesiynwyr. Roedd hynny’n sioe wych i’w gwylio! Cawsom hefyd ddiwrnod gwych yn Universal Studios, yn llawn hwyl, reidiau a digon o chwerthin a hefyd gweld Mynydd Fuji mor glir yn rhywbeth arbenning iawn!
Yn Kyoto, fe wnaethon ni hyd yn oed geisio gweld geisha, ac er nad oedd hi’n hawdd, llwyddais i gael cipolwg ar gefn un cyn iddi ddiflannu’n sydyn i mewn i’r tai traddodiadol.
Roedd pedwar ohonom yn dod o Geredigion – Fi ac Awen Davies o Benparc, Cari Davies o Dregaron a Hafwen Davies o Llanwennog ac roedd hi’n arbennig iawn rhannu’r profiad gyda ffrindiau o adref, yn ogystal â gwneud ffrindiau newydd o bob cwr o Gymru. Yn wir, dw i wedi gwneud ffrindiau am oes drwy CFfI.
Byddwn yn annog pob aelod o CFfI i fanteisio ar y cyfleoedd teithio sydd ar gael. Mae’n wirioneddol yn brofiad unigryw sy’n agor eich llygaid i’r byd. Hefyd, peidiwch â bod ofn rhoi syniadau ymlaen am deithiau’r dyfodol, mae’n gyfle i chi helpu siapio’r antur nesaf!
Os oes unrhyw un yn ystyried gwneud cais neu os oes gennych gwestiynau am y broses, byddwn yn fwy na pharod i helpu, peidiwch ag oedi i gysylltu.




