Newyddion CFfI Cymru

Am wythnos anhygoel i CFFI Cymru yn Eisteddfod y Garreg Las!

Am wythnos! Mae’n deg dweud bod CFfI Cymru wedi cael wythnos anhygoel yn Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd. O’r cychwyn cyntaf i’r diwedd, roedd awyrgylch gynnes, gyfeillgar a bywiog i’w deimlo ar y maes, ac roedd hi’n wych gweld cymaint o aelodau CFfI o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i ddathlu, cystadlu a chael hwyl.

Bu Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr yn brysur iawn drwy’r wythnos gyda’i stondin ar y maes. Roedd y stondin yn gyfle gwych i arddangos presenoldeb y mudiad yn y dair sir, cwrdd â’n haelodau ac eisteddfodwyr, rhannu gwybodaeth am ein gwaith a dangos popeth sydd gan CFfI i’w gynnig. O roi sticeri i chwarae darts, a hyd yn oed godro ein buwch! – roedd rhywbeth i bawb!

Dechreuodd yr wythnos mewn steil arbennig wrth i Fflur James o CFfI Eglwyswrw gael ei hurddo’n aelod o’r Orsedd, ar ôl ennill Coron CFfI Cymru yn ein eisteddfod llynedd. Diolch i waith caled ein Prif Weithredwr, Mared Rand Jones, bydd pob aelod sy’n ennill y gadair neu’r goron yn ein Eisteddfod yn y dyfodol yn cael ei wneud yn aelod o’r Orsedd – anrhydedd enfawr ac yn sicr yn glod arbennig i’n haelodau talentog!

Mae Mared Jones o CFfI Ynys Môn, enillydd y Gadair yn Eisteddfod CFfI Cymru 2025, eisoes yn aelod o’r Orsedd.

Roedd yr anrhydeddau’n parhau ddydd Llun, wrth i aelodau CFfI Abergwaun gael y fraint anhygoel o fod yn rhan o seremoni’r Orsedd fel cludwyr y baneri. Am brofiad arbennig i’n haelodau, ac un y byddant yn siŵr o’i gofio am flynyddoedd i ddod.

Aelodau CFfI Abergwaun

Ni fu ein haelodau’n eistedd yn ôl am hir! Ar brynhawn ddydd Llun, cafwyd sesiwn arbennig yn Y Stiwdio, wrth i aelodau CFfI o bob un o’r tair sir ddod ynghyd i ddiddanu’r gynulleidfa gyda dros awr o adloniant. O ganu a dawnsio i jôcs a pherfformiadau amrywiol, roedd y lle dan ei sang! Roedd yn wych gweld ein haelodau yn camu i’r llwyfan, yn rhannu eu doniau ac yn dangos i’r gynulleidfa gymaint o dalent sydd o fewn CFfI Cymru. Cafwyd prynhawn gwych gan bawb – a digon o hwyl hefyd!

Drwy gydol yr wythnos, roedd aelodau CFfI o bob cwr o Gymru yn cystadlu yn yr Eisteddfod, ac roedd hi’n bleser gweld talent ein haelodau yn cael ei harddangos unwaith eto. Cafwyd hefyd aduniad arbennig yn y gystadleuaeth Côr Newydd yr Eisteddfod, wrth i Gôr CFfI Caerwedros a’r Cylch ailuno’n arbennig ar gyfer yr Eisteddfod leol – ac yn wych iawn cipio’r trydydd safle yn y gystadleuaeth! Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran.

Ac ni fu talent cerddorol CFfI yn stopio yno! Cafodd Owain Lewis, Trefnydd CFfI Sir Benfro, sy’n bianydd dawnus, ei gyfle i ddisgleirio yn ‘Brwydr y Cyfeilyddion’ gyda’i gyd-gyfeilyddion o Sir Benfro, yn y Babell Encore. Am wledd gafodd y gynulleidfa wrth weld y cyfeilyddion dawnus yn rhoi sioe arbennig – yn sicr, cafodd y dorf wledd!

Ddydd Mercher cafwyd uchafbwynt arall wrth i ni lansio podlediad newydd sbon CFfI Cymru ar y maes. Roedd hi’n wych gweld aelodau o bob rhan o Gymru yn dod ynghyd gyda chyflwynwyr y podlediad, Daniel O’Callaghan, Siôn Wyn a Tomos Evans, i ddathlu lansiad y podlediad newydd. Ac am ffordd i ddechrau! Mae gennym westeion arbennig yn y penodau cyntaf, sef y cyflwynydd Meinir Howells a’r dyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens. Mae’r ddwy bennod gyntaf yn werth gwrando arnynt, wrth i’r gwesteion rannu beth mae CFfI yn ei olygu iddynt hwy. Hoffem hefyd ddiolch yn fawr iawn i Marc Griffiths o Stiwdio Box am ei holl waith caled gyda’r podlediad – o recordio’r penodau i helpu i’w paratoi a sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer y lansiad. Rydym yn hynod ddiolchgar am ei amser, a’i arbenigedd wrth ddod â’r prosiect newydd cyffrous hwn yn fyw! Ewch i wrando – maen nhw’n wych!

Wrth gwrs, ni allwn orffen heb sôn am rai o’r llwyddiannau arbennig i’n haelodau yn ystod yr Eisteddfod. Llongyfarchiadau enfawr i Ffion Mair Thomas o CFfI Eglwyswrw, a enillodd Wobr Goffa Osbourne Roberts – Rhuban Glas 19–25. Hefyd, llongyfarchiadau mawr i Sophie Jones o CFfI Pontsenni, a enillodd Wobr Goffa Aled Lloyd Davies yn y gystadleuaeth Cerdd Dant Agored. Dwy gamp arbennig iawn – ac anrhydeddau mawr i’r ddwy! Llongyfarchiadau mawr, Ffion a Sophie.

Llongyfarchiadau mawr hefyd i Lliwen Jones, aelod o CFfI Bro Ddyfi, gyda’r newyddion cyffrous yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei bod wedi cael ei chyhoeddi fel cyflwynydd newydd Cyw ar S4C! Bydd Lliwen yn canu, dawnsio, diddanu ac yn dod â chymaint o hwyl i blant ifanc Cymru.Pob lwc, Lliwen! Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at dy weld ar Cyw!

Lliwen Jones a Cyw!

O’r stondin brysur, yr Orsedd, i’r perfformiadau yn Y Stiwdio, y cystadlu, y talent, y podlediad newydd a’r holl hwyl a chwerthin ar hyd y maes – am wythnos i CFfI Cymru!

Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at wneud Eisteddfod y Garreg Las yn wythnos mor arbennig a llwyddiannus – ein haelodau, gwirfoddolwyr, staff, swyddogion, cystadleuwyr, cefnogwyr a phawb a alwodd heibio i’n stondin. Heb eich brwdfrydedd, egni a chefnogaeth chi, ni fyddai’r wythnos wedi bod yr un fath.

Am wythnos llawn cyfeillgarwch, talent, hwyl ac ysbryd CFfI – wythnos fydd yn aros yn y co am byth!