Adnoddau Clwb & Sir
Eich Rôl Chi yn CFfI
Ydych chi’n chwaraewr tîm, yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau ac yn barod i gymryd cyfrifoldeb am faes o ddiddordeb? Yna beth am ymuno â thîm swyddogion CFfI a helpu i redeg eich CFfI. Mae ymgymryd â rôl swyddog clwb yn werth chweil, yn heriol ac yn bleserus.
Mae CFfI llwyddiannus yn cynnwys unigolion deinamig sy’n gweithredu fel tîm, gyda gweledigaeth a rennir o weithio’n galed i gynnig y gorau i’w CFfI. Mae hyn yn golygu gallu dibynnu ar eich cyd-swyddogion a’u bod yn gallu dibynnu arnoch yn gyfnewid.
Mae disgrifyddion swyddi ar gyfer y rolau canlynol yn cynnwys y wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ddechrau rhedeg CFfI hwyliog, diogel a llwyddiannus gan gynnwys manylion am yr hyn sy’n gyfystyr â Swydd Ymddiriedolaeth.
Ar ôl i chi gael eich ethol i’ch rôl newydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau Hyfforddiant Swyddogion y Clwb.
Gellir dod o hyd i’r holl ddogfennau hyfforddi trwy glicio ar y botwm isod.
Cymorth i Aelodau

Sefydliad DPJ
Rhannwch y Llwyth – Llinellau ffôn ar agor 24/7
0800 587 4262 neu tecstiwch 07860 048 799. Yn darparu cymorth iechyd meddwl ac mynediad at sesiynau cwnsela yn rhad ac am ddim i bobol sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth yng Nghymru.

Rhwydwaith y Gymuned Ffermio
Mae FCN yn darparu cymorth ymarferol i ffermwyr.
Mae FCN yn rhedeg llinell gymorth genedlaethol gyfrinachol (03000 111 999) ac e-linell gymorth (help@fcn.org.uk) sydd ar agor bob dydd o’r flwyddyn rhwng 7am-11pm

FarmWell Wales
Mae FarmWell yn ymwneud ag arferion ffermio da – Pwrpas yr elusen yw cefnogi ffermwyr i ddod o hyd i gydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ar y fferm sy’n caniatáu unigolion ofalu am eu hiechyd meddwl a chorfforol tra’n rhedeg busnes ffermio.

RABI
Am gymorth iechyd meddwl ar-lein i bobol sy’n ffermio yn y DU ac ar y ffôn trwy linell gymorth: 0800 188 4444. Mae modd i bobol alw am ymholiadau cyffredinol am gymorth ffermio, gan gynnwys grantiau cymorth ariannol ar gyfer materion domestig. Mae gan RABI hefyd wasanaeth cwnsela am ddim a gwasanaeth hunangymorth ar-lein i oedolion a phlant mewn ffermio.

Tir Dewi
(yn Ne Orllewin, Gogledd Orllewin a Chanolbarth Cymru)
0800 121 4722 7 diwrnod
yr wythnos
7yb – 10yh. Yma i helpu, bob tro. Darparu clust i wrando, cefnogaeth ac eiriolaeth.

Agrespect LGBTQ+ support
Mae Agrespect yn dathlu holl bobl LHDTC+ sy’n gwneud gwahaniaeth yn amaethyddiaeth ac sy’n cynrychioli’r ystod eang o bobol sy’n gweithio yn y diwydiant.

Samaritans
Beth bynnag rydych chi’n mynd drwyddo, bydd Samariad yn ei wynebu gyda chi. Rydyn ni yma 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Galwch: 116 123

Addington Fund
Elusen sy’n cefnogi ffermwyr mewn argyfwng, bod hynny’n ariannol, ymwneud â phroblemau llety, tywydd eithafol neu glefyd anifeiliaid. Mae’r elusen yn cynnig grantiau, llety a chefnogaeth yn ystod trychinebau tywydd a chlefyd i sicrhau bod y deunydd priodol efo unigolion i leihau dioddefaint pobol ac anifeiliaid yn y sefyllfaoedd hyn.
01926 620135.
Apiau i helpu gyda gorbryder, cwsg, myfyrdod, a lles cyffredinol: Calm, Nature Sounds, Breathwrk, Dare, Headspace, Wysa a Cwtsh