Newyddion CFfI Cymru

Ceredigion yn ennill Eisteddfod CFfI Cymru 2026

Pafiliwn Bont yng Ngheredigion gafodd y fraint o fod yn gartref i Eisteddfod CFfI Cymru 2026. Ddydd Sadwrn, 21 Tachwedd, fe wnaeth CFfI Ceredigion groesawu cystadleuwyr a chefnogwyr o bob cwr o Gymru i’w sir am ddiwrnod llawn o gystadlu cyffrous, a dathlu a diwylliant Cymreig. Eleni, cadeirydd yr Eisteddfod oedd Enfys Hatcher Davies, gyda Heledd Williams yn Lywydd.

Cymerodd dros 800 o gystadleuwyr o 12 ffederasiwn sirol ran mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau, gyda’r adrannau’n cael eu noddi’n garedig gan BV REES, Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, JMS Planning a Brodyr Thomas Cyf.

Roedd ystod eang o gystadlu – o gerddoriaeth, llefaru, adloniant ysgafn a chystadlaethau gwaith cartref, ysgrifennu yn greadigol, celf a ffotograffiaeth.

Ar ôl diwrnod llawn o gystadlu, daeth Ceredigion i’r brig fel enillwyr  Tlws Mansel Charles, ar gyfer y Sir buddigol. Daeth CFfI Sir Benfro a CFfI Sir Gaerfyrddin yn gydradd ail.

Ceredigion yn cael ei choroni’n enillwyr cyffredinol Tlws Mansel Charles am ennill yr Eisteddfod.

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd y Seremoni Cadeirio a Choroni, dan arweiniad Enfys Hatcher Davies. Cafodd Cadair eleni, a noddwyd gan NFU Cymru Ceredigion Trust Fund, ei greu gan Bleddyn ac Owain Thomas. Dyfarnwyd y Gadair fuddugol i Daniel Evans o CFfI Ceredigion, aeth ymlaen hefyd i ennill y Goron a grëwyd gan y ddeuawd gŵr a gwraig, Dylan ac Elen Bowen, a noddwyd yn garedig gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae’r gamp arbennig hon o ennill y Gadair a’r Goron yn yr un Eisteddfod, ond wedi digwydd unwaith yn unig o’r blaen yn hanes yr Eisteddfod.

Daniel Evans, enillydd dwbl y Gadair a’r Goron.

Cafwyd llu o ganlyniadau drwy gydol y dydd yn yr Eisteddfod.

Roedd y gwobrau unigol yn cynnwys:

  • Cwpan Parcwilws (perfformiad unigol gorau mewn cystadleuaeth unawd sioe gerdd / ffilm): Alys Wyn Jones, Clwyd.
  • Cwpan Ardudwy (unawdydd cerddorol gorau): Sioned Beynon, CFfI Sir Gaerfyrddin.
  • Cwpan CFfI Cymru (llefaru gorau): Cari Davies, CFfI Ceredigion.
  • Cwpan Joy Cornock (cystadleuydd mwyaf addawol): Owain Jenkins, Sir Benfro.

Cwpan Ardudwy (unawdydd cerddorol gorau): Sioned Beynon, CFfI Sir Gaerfyrddin.

Cwpan CFfI Cymru (llefaru gorau): Cari Davies, CFfI Ceredigion.

Cwpan Parcwilws (perfformiad unigol gorau mewn cystadleuaeth unawd sioe gerdd / ffilm): Alys Wyn Jones, Clwyd.

Cwpan Joy Cornock (cystadleuydd mwyaf addawol): Owain Jenkins, Sir Benfro.

Bu pum côr yn cystadlu yn y gystadleuaeth  Côr, gan berfformio ‘Drws Nesa Dros y Don’ gan Eric Jones. Daeth CFfI Meirionnydd yn gyntaf, gan ennill Cwpan Dyffryn Tywi, gyda CFfI Ceredigion yn ail a CFfI Clwyd yn drydydd.

Enillwyr gystadleuaeth y corau – CFfI Meirionnydd

Roedd gwobrau nodedig eraill yn cynnwys:

  • Tlws Undeb Amaethwyr Cymru Sir Ddinbych (adran gwaith cartref): CFfI Ceredigion.
  • Tarian Elonwy Phillips (ffederasiwn fuddugol yn y cystadlaethau llwyfan): CFfI Sir Gâr.
  • Tlws Undeb Amaethwyr Cymru Sir Ddinbych (adran gwaith cartref): CFfI Ceredigion.
  • Tarian Elonwy Phillips (ffederasiwn fuddugol yn y cystadlaethau llwyfan): CFfI Sir Gâr.

Tlws Undeb Amaethwyr Cymru Sir Ddinbych (adran gwaith cartref): CFfI Ceredigion.

Tarian Elonwy Phillips (ffederasiwn fuddugol yn y cystadlaethau llwyfan): CFfI Sir Gâr.

Mae CFfI Cymru yn estyn ei ddiolch o galon i’r holl gystadleuwyr, stiwardiaid, beirniaid, cyfeilyddion a phwyllgor Ceredigion am eu gwaith caled a’u hymroddiad wrth sicrhau bod Eisteddfod 2026 yn lwyddiant ysgubol.

Llongyfarchiadau mawr i CFfI Ceredigion ar ennill Tlws Mansel Charles ar gyfer y Sir buddigiol yn yr Eisteddfod. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Eisteddfod CFfI Cymru 2027, a gynhelir gan CFfI Meirionnydd.

Tlws Mansel Charles ar gyfer y Sir buddigol yn yr Eisteddfod  – Ceredigion