Newyddion CFfI Cymru

Cyflawniad Rhagorol wrth i Daniel Evans ennill Cadair a Choron Eisteddfod CFfI Cymru 2026

Cynhaliwyd un o ddigwyddiadau mwyaf calendr ieuenctid cefn gwlad Cymru ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid heddiw – Eisteddfod CFfI Cymru 2026, a oedd yn cael ei westeio eleni gan CFfI Ceredigion.

Prynhawn ma, fe wnaeth aelodau CFfI Cymru ymgynnull ar gyfer Seremoni fawreddog y Cadeirio a’r Coroni. Arweiniwyd y seremoni, sy’n unigryw yng Nghymru gan mai hon yw’r unig Eisteddfod i ddyfarnu cadair a choron yn yr un seremoni, gan Enfys Hatcher Davies, Cadeirydd yr Eisteddfod eleni.

Eirlys Hatcher Davies

Y beirniaid eleni roedd Y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, oedd yn beirniadu cystadleuaeth y Gadair, a Luned Mair, oedd yn beirniadu cystadleuaeth y Goron. Roedd swyddogion CFfI yn bresennol ar y llwyfan ar gyfer y seremoni oedd yn cynnwys Cadeirydd CFfI Cymru, Dominic Hampson Smith, Prif Weithredwr y Mudiad Mared Rand Jones, a’r Llywydd David Price, hefyd gwesteion arbennig, noddwyr ac aelodau’r pwyllgor sydd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drefnu’r Eisteddfod.

Noddwyd y Gadair a’r Goron yn hael gan Ceredigion NFU Trust Fund a Chyngor Sir Ceredigion. Cafodd y Gadair hardd ei chreu gan y ddau frawd Bleddyn ac Owain Thomas o CFfI Felinfach, a chrëwyd y Goron gan y gŵr a’r wraig, Dylan ac Elen Bowen, o Gemwaith Bowen, Castellnewydd Emlyn.

Eleni, y dasg i’r beirdd  oedd i gyflwyno cerdd dan y teitl ‘Bwlch neu Bylchau’ ar gyfer y Gadair, a darn o ryddiaith ar  thema ‘Y Gêm’ ar gyfer y Goron.

Yn dilyn seinio’r ffanffer gan Carys Jenkins, cyhoeddwyd enillwyr 2026:

Carys Jenkins

Enillydd y Gadair  a’r Goron – Daniel Evans, CFfI Pontsian, Ceredigion

Mae Daniel Evans, o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian, Ceredigion, wedi bod yn aelod brwd o’r mudiad ers naw mlynedd, ac ar hyn o bryd yn Ysgrifennydd y clwb. Wedi datblygu ei gariad at lenyddiaeth Gymraeg yn ystod ei ddyddiau ysgol, mae Daniel yn hynod ddiolchgar am yr athrawon a fu’n ei ysbrydoli a’i annog ar hyd y daith. Yn bendant, uchafbwynt ei gyfnod gyda’r mudiad hyd yma yw ennill y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod CFfI Cymru 2026, camp arbennig a gyflawnwyd ar ei dir ei hun yng Ngheredigion.

Cafwyd cyfarchion cynnes gan aelodau a oedd yn cynrychioli Siroedd amrywiol, ac yna canwyd cân y Cadeirio gan Ela Mablen Griffiths-Jones o CFfI Mydroilyn, gyda Gwawr Taylor yn cyfeilio ar y piano.

Ela Mablen Griffiths-Jones
Daniel Evans

Canlyniadau llawn y ddwy gystadleuaeth:

Cerdd ar gyfer y Gadair

1af – Daniel Evans, Ceredigion
2il – Eluned Hughes, Eryri
3ydd – Evie Lewis, Brycheiniog a Mared Jones, Ynys Môn

Rhyddiaith ar gyfer y Goron

1af – Daniel Evans, Ceredigion
2il – Meg Lewis, Sir Benfro
3ydd – Gwenno Williams, Clwyd ac Eluned Hughes, Eryri

Mewn camp arbennig, llwyddodd Daniel Evans, o CFfI Pontsian, Ceredigion, i ennill y Gadair a’r Goron – cyflawniad anhygoel i’r bachgen lleol sy’n cynrychioli Ceredigion mor falch.

Fel y cyhoeddwyd yn dilyn Eisteddfod 2025, bydd enillwyr y Gadair a’r Goron yn cael gwahoddiad i ymuno â’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2027.

Mae modd prynu’r cyfansoddiadau buddugol drwy ymweld â: ystamp.cymru/cyhoeddiadau/

Estynnodd CFfI Cymru ei llongyfarchiadau cynnes i’r enillydd ar ei gamp anhygoel, ac i’r holl gystadleuwyr am eu creadigrwydd eithriadol, gan ddathlu carreg filltir gofiadwy arall i bobl ifanc ledled Cymru.

Daeth y seremoni i ben wrth ganu’r anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau.