Arall

ABP i noddi Cystadleuaeth Biff Ifanc CFfI Cymru yn Ffair Aeaf 2026

Mae’n bleser gan CFfI Cymru gyhoeddi mai ABP fydd prif noddwr Cystadleuaeth Biff Ifanc CFfI Cymru yn Ffair Aeaf Cymru 2026.

Mae’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i ffermwyr ifanc o bob cwr o Gymru i arddangos yr ymroddiad, y sgiliau magu stoc a da byw sydd eu hangen i fagu a chyflwyno gwartheg biff o ansawdd uchel. 

Ar gyfer cystadleuaeth 2026, mae CFfI Cymru hefyd yn falch o gyflwyno Dosbarth Heffer Gynhenid Pur a Bustach Cynhenid Pur newydd, gan greu cyfleoedd ychwanegol i aelodau arddangos gwartheg cynhenid o safon a dathlu cryfder bridiau cig eidion traddodiadol Prydain. 

Mae CFfI Cymru yn ddiolchgar i ABP am eu cefnogaeth i’r gystadleuaeth werthfawr hon. Mae’r nawdd yn dangos ymrwymiad parhaus ABP i bobl ifanc mewn amaethyddiaeth ac yn helpu i sicrhau bod aelodau yn gallu ennill profiad ymarferol, magu hyder a datblygu sgiliau sy’n arwain y diwydiant.

Bydd y Gystadleuaeth Biff Ifanc yn cael ei chynnal yn ystod Ffair Aeaf Frenhinol Cymru gyda’r gwartheg yn cael eu harddangos ddydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026 am oddeutu 8am, gan ddod â chystadleuwyr, cefnogwyr a chynrychiolwyr o’r diwydiant o bob cwr o Gymru at ei gilydd i ddathlu cyflawniadau ffermwyr ifanc a dyfodol cynhyrchu cig eidion Cymru.

Dywedodd Wil Worthington, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru:

“Rydym wrth ein bodd i groesawu ABP fel noddwr Cystadleuaeth Biff Ifanc CFfI Cymru. Bydd eu cefnogaeth yn ein helpu i barhau i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc ddatblygu eu gwybodaeth am dda byw, arddangos eu galluoedd a meithrin cysylltiadau â’r diwydiant amaethyddol ehangach.”