Newyddion CFfI Cymru
Dunbia i noddi Cystadleuaeth Prif Gig Oen CFfI Cymru yn Ffair Aeaf Cymru 2026
Mae CFfI Cymru yn falch iawn o gadarnhau bod Dunbia yn noddwr Cystadleuaeth Prime Lamb yn Ffair Aeaf Cymru 2026.
Mae’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i aelodau CFfI Cymru fagu pum ŵyn cyn dewis pâr i’w harddangos yn Ffair Aeaf Cymru. Mae’r cystadleuwyr hefyd yn cynhyrchu arddangosfa sy’n cwmpasu eu taith, gan gynnwys gwybodaeth am fridiau, costau a ffotograffau.
Dywedodd Wil Worthington, Cadeirydd Materion Gwledig:
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Dunbia am gefnogi’r gystadleuaeth Prime Lamb. Mae eu nawdd yn ein helpu i roi cyfle gwerthfawr i aelodau ddatblygu eu stoc, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gynhyrchu cig oen ar gyfer y farchnad.
“Edrychwn ymlaen at weld gwaith caled ein cystadleuwyr yn cael ei arddangos yn Ffair Aeaf Cymru.”
Mae gan Dunbia berthynas sefydledig eisoes â CFfI Cymru, gan gynnwys gweithio ochr yn ochr â Sainsbury’s ar Fenter Cig Oen CFfI Cymru, sy’n cysylltu aelodau sy’n cymryd rhan â’r gadwyn gyflenwi cig oen fasnachol.
Hoffai CFfI Cymru ddiolch i Dunbia am ei chefnogaeth hael a’i hymrwymiad parhaus i bobl ifanc ym maes amaethyddiaeth Cymru.

