Clwb y Mis

Gorffennaf 2026

Enw y Clwb:
CFfI Llannefydd
Nifer o Aelodau:
31
Lleoliad Cwrdd:
Neuadd y Plwyf, Llannefydd
Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:
Teulu, Cefnogol, Hwyliog
Hoff Weithgaredd Noson Clwb:
YNoson Crempog a Gemau
Cyflawniadau Codi Arian:
Trefnu a chynnal Traws Gwlad Ceffylau er mwyn codi arian ar gyfer Neuadd y Plwyf a’r Clwb Ffermwyr Ifanc.
Gweithio o fewn y Gymuned:
Rhoi help llaw gyda sesiynau Sadwrn Sgwrsio sef cyfle i ddysgwyr ddod at ei gilydd i ymarfer a defnyddio eu Cymraeg, stiwardio a helpu yn Sioe Llannefydd, planu blodau er mwyn harddu’r dafarn leol, stiwardio y traws gwlad ceffylau, ambell aelod wedi cymryd rhan yn y pantomeim lleol.
Hoff gystadlaethau:
Meimio i Gerddoriaeth, Sgets a Thynnu Rhaff.
Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg?
Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n clwb arbennig ni, gyda’r Gymraeg yn rhan o’n holl Cymraeg yw iaith bron a bod pob noson clwb, cystadlu drwy’r Gymraeg a defnyddio’r Gymraeg ar y tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Unrhyw ffeithiau eraill?
Bydd y Clwb yn dathlu ei benblwydd yn 80 flwyddyn nesaf (2027)






