Newyddion CFfI Cymru
CFfI Cymru yn cael eu Cydnabod fel Arwyr Diogelwch Fferm
Wrth i ni ddathlu ein pen blwydd yn 90 eleni, roedd yn anrhydedd mawr i CFfI Cymru gael ein cydnabod gan Sefydliad Diogelwch Fferm fel Arwyr Diogelwch Fferm eleni.
Mae cael ein cydnabod ochr yn ochr â’r miloedd o bobl ifanc sy’n rhan o CFfI Cymru yn rhywbeth yr ydym yn hynod falch ohono. Ers 90 mlynedd, mae ein haelodau wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cymunedau gwledig ledled Cymru, ac rydym yn falch iawn bod Sefydliad Diogelwch Fferm wedi cydnabod y cyfraniad y mae ein haelodau yn parhau i’w wneud tuag at greu cymunedau ffermio mwy diogel, iachach a mwy cefnogol.
Diolch i Sefydliad Diogelwch Fferm am y gydnabyddiaeth wych hon.

Mae diogelwch ar y fferm yn gyfrifoldeb i bawb
Mae diogelwch ar y fferm bob amser wedi bod yn rhan bwysig o’n gwaith yn CFfI Cymru, ac rydym yn falch o’r gwaith y mae ein haelodau a’n clybiau yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth a rhannu negeseuon diogelwch pwysig.
O gynnal ein cystadlaethau diogelwch fferm ein hunain i gymryd rhan mewn hyfforddiant fel modiwl ‘Farm Safe Curve’ gan Yellow Wellies, mae ein haelodau yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r risgiau sy’n wynebu pobl ar ffermydd yn barhaol.
Rydym hefyd wedi bod yn falch o weithio gyda Phartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru ar fentrau megis y gêm ystafell ddianc ryngweithiol ar ddiogelwch fferm, gan roi ffordd ymarferol a difyr i’n haelodau feddwl am ddiogelwch ar y fferm.
Yn ogystal â hyn, rydym yn parhau i hyrwyddo negeseuon diogelwch allweddol, gan gynnwys diogelwch beiciau cwad, wrth gydnabod bod gofalu amdanom ein hunain a’n gilydd yr un mor bwysig â gofalu am ein peiriannau a’n da byw.
Gofalu am ein hiechyd meddwl
I ni, mae diogelwch ar y fferm yn mynd law yn llaw â llesiant.
Gall y diwydiant amaethyddol fod yn heriol, ac mae creu cyfleoedd i bobl ifanc siarad yn agored am iechyd meddwl a chefnogi ei gilydd yn hynod bwysig.
Dangosodd ein haelodau hyn yn wych yn Rownd Derfynol Gwledd Adloniant Genedlaethol FfCCFfI eleni, a gynhaliwyd am y tro cyntaf yng Nghymru yn Theatr Hafren. Cyflwynodd CFfI Erwood a CFfI Dyffryn Tanat berfformiadau pwerus a phryfoclyd yn canolbwyntio ar iechyd meddwl, gan gipio’r safleoedd cyntaf a’r ail safle yn y drefn honno.
Rydym hefyd yn falch o gydnabod pwysigrwydd llesiant drwy ein Gwobrau Amaethyddol blynyddol, sy’n cynnwys Gwobr Pencampwr Iechyd Meddwl.
Mae’r mentrau hyn yn dangos cymaint y mae ein haelodau yn gofalu am y bobl o’u cwmpas – ac mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn hynod falch ohono.


Dysgu sgiliau a allai achub bywyd
Mae eleni hefyd wedi gweld lansio cystadleuaeth newydd gyffrous mewn partneriaeth ag Achub Bywyd Cymru, gan annog clybiau CFfI i ddysgu a rhannu sgiliau CPR.
Roedd y gystadleuaeth yn rhoi cyfle i glybiau ennill diffibriliwr, ond yn bwysicach fyth, roedd yn helpu i arfogi ein haelodau â sgiliau a allai achub bywyd, y gallant fynd â nhw yn ôl i’w clybiau, eu ffermydd, eu teuluoedd a’u cymunedau.


90 mlynedd – edrych tua’r dyfodol
Mae ein pen-blwydd yn 90 oed wedi rhoi digon o gyfleoedd i ni ddathlu ein gorffennol, ond mae hefyd wedi rhoi cyfle i ni feddwl am y dyfodol.
O’n cinio arbennig i ddathlu 90 mlynedd cyn Sioe Frenhinol Cymru i ddathlu drwy gydol Wythnos Diogelwch Fferm, mae wedi bod yn flwyddyn wych i fyfyrio ar bopeth y mae CFfI Cymru a’n haelodau wedi’i gyflawni dros y naw degawd diwethaf.
Mae cael ein cydnabod fel Arwyr Diogelwch Fferm gan Sefydliad Diogelwch Fferm yn arbennig o ystyrlon oherwydd ei fod yn tynnu sylw at rywbeth sydd wrth wraidd CFfI – gofalu ar ôl ein gilydd.
Nid mater o reolau, hyfforddiant neu offer yn unig yw diogelwch ar y fferm. Mae’n ymwneud â chael sgyrsiau, rhannu profiadau, dysgu oddi wrth ein gilydd a chael yr hyder i godi llais pan nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn.
Ein haelodau yw dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru, ac rydym yn credu bod ganddynt rôl hanfodol i’w chwarae wrth greu diwylliant lle mae pawb yn gofalu am ei gilydd.
Felly, o bob un ohonom yn CFfI Cymru, diolch i Sefydliad Diogelwch Fferm am gydnabod ein haelodau fel Arwyr Diogelwch Fferm yn ystod blwyddyn ein pen-blwydd yn 90 oed.
Rydym yn hynod falch o’n haelodau a’r cyfraniad y maent yn ei wneud i Gymru wledig bob dydd.
Dyma i 90 mlynedd o CFfI Cymru – a llawer mwy o flynyddoedd o gefnogi, dysgu oddi wrth ein gilydd a gofalu am ein gilydd.