Newyddion CFfI Cymru

Llwyddiant hanesyddol i CFfI Cymru wrth i enillwyr y Gadair a’r Goron gael cydnabyddiaeth gan yr Orsedd

Mae CFfI Cymru yn dathlu carreg filltir bwysig yn hanes y mudiad yn dilyn penderfyniad Bwrdd yr Orsedd y bydd enillwyr y Gadair a’r Goron sy’n 18 oed neu’n hŷn yn Eisteddfod CFfI Cymru, o hyn ymlaen, yn derbyn gwahoddiad i gael eu hurddo i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Cyflwynwyd y cais yn ffurfiol gan CFfI Cymru, ac mae’r penderfyniad yn gydnabyddiaeth o safon uchel cystadlaethau llenyddol Eisteddfod CFfI Cymru ac o gyfraniad gwerthfawr aelodau’r mudiad at ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg.

Dywedodd Mared Jones, Prif Weithredwr CFfI Cymru:

“Mae hwn yn newyddion arbennig i CFfI Cymru. Ers blynyddoedd mae Eisteddfod CFfI Cymru wedi meithrin beirdd, llenorion a phobl greadigol ifanc o safon eithriadol, ac mae’n fraint gweld eu llwyddiannau’n cael eu cydnabod gan yr Orsedd. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Fwrdd yr Orsedd ac i Christine James, Cofiadur yr Orsedd, am eu cefnogaeth a’u parodrwydd i gydnabod cyfraniad aelodau CFfI Cymru i’n diwylliant ac i’n hiaith.”

Yn ystod seremoni ddydd Llun yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, cafodd Fflur James o CFfI Sir Benfro, enillydd y Goron yn Eisteddfod CFfI Cymru 2025, ei hurddo i’r Orsedd yn unol â’r trefniant newydd.

Mae Mared Jones o CFfI Ynys Môn, enillydd y Gadair yn Eisteddfod CFfI Cymru 2025, eisoes yn aelod o’r Orsedd.

Mae Eisteddfod CFfI Cymru yn un o brif ddigwyddiadau diwylliannol y mudiad, gan roi llwyfan i aelodau ifanc arddangos eu doniau mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth, drama a’r celfyddydau. Mae’r penderfyniad hwn yn cryfhau’r berthynas rhwng CFfI Cymru a’r Orsedd, gan sicrhau bod cyflawniadau llenyddol aelodau’r mudiad yn cael y gydnabyddiaeth genedlaethol y maent yn ei haeddu.