Newyddion CFfI Cymru
CFfI Cymru yn Dathlu 90 Mlynedd gyda Chinio Pen-Blwydd Arbennig.

Dechreuodd wythnos Sioe Frenhinol Cymru yn y ffordd orau bosibl nos Sadwrn, 18 fed o Orffennaf 2026, wrth i CFfI Cymru groesawu aelodau presennol, cyn-aelodau, cefnogwyr a ffrindiau’r mudiad i ginio dathlu’r ffermwyr ifant yn 90 oed ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd.
Pa ffordd well o gychwyn un o wythnosau pwysicaf y calendr amaethyddol na dod ynghyd i ddathlu mudiad sydd wedi bod wrth galon cymunedau gwledig Cymru ers naw degawd?
Roedd y noson yn gyfle i fwynhau pryd arbennig, wedi’i baratoi gan Fingers and Forks, wrth i westeion hel atgofion, rhannu straeon, chwerthin gyda hen ffrindiau a dathlu popeth mae CFfI Cymru wedi’i gyflawni dros y 90 mlynedd diwethaf.
Ers ei sefydlu, mae CFfI Cymru wedi rhoi cymaint i bobl ifanc ledled Cymru. Mae’r mudiad wedi cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder, gwneud ffrindiau oes, cystadlu, gwirfoddoli ac, yn bwysicaf oll, cael hwyl.
Mae cenedlaethau o aelodau wedi elwa o’r profiadau unigryw y mae’r mudiad yn eu cynnig, ac mae llawer yn edrych yn ôl ar eu cyfnod gyda’r CFfI fel rhai o flynyddoedd gorau eu bywydau.
Wrth ddathlu’r garreg filltir arbennig hon, roedd y cinio’n gyfle nid yn unig i edrych yn ôl ar naw degawd anhygoel, ond hefyd i edrych ymlaen at ddyfodol disglair y mudiad. Mae ysbryd CFfI Cymru yn parhau mor gryf ag erioed, ac mae’r gwerthoedd o gyfeillgarwch, dysgu, gwirfoddoli a datblygu pobl ifanc yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau newydd.
Roedd cyrraedd 90 mlwydd oed yn gamp arbennig iawn ac yn rheswm teilwng dros ddathlu. Roedd y noson yn llawn atgofion, chwerthin, cerddoriaeth a chwmni gwych wrth godi gwydraid i ddathlu’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi bod yn rhan o stori anhygoel CFfI Cymru dros y 90 mlynedd diwethaf.




