Blog yr Aelodau
Molly a Tomos yn ymweld a Seminar y Gwanwyn Rural Youth Europe

Yn gynharach eleni, teithiodd dau aelod o CFfI Cymru, Tomos a Molly, i Budapest ar gyfer Seminar Gwanwyn Rural Youth Europe.
Fe wnaethom ddal i fyny â Tomos Evans o Fishguard yn Sir Benfro i glywed am ei brofiad…
“Dyma’r tro cyntaf i mi deithio gyda CFfI, ac nid oedd gennyf unrhyw syniad beth i’w ddisgwyl. Yn ddi-os, roedd y sesiwn astudio yn rhagori ar fy nisgwyliadau. Dysgais lawer am sut y gall llythrennedd yn y cyfryngau annog pobl ifanc wledig i ymgysylltu â democratiaeth ar bob lefel. Fel rhywun sy’n dod o ardal wledig ac sy’n gweithio yn y cyfryngau, roedd y pwnc o ddiddordeb mawr i mi, ac roedd y sesiwn astudio ei hun yn hwyl ac yn ddifyr, gan gynnwys y cyfle i gyfrannu at bodlediad. Ond yr hyn a werthfawrogais fwyaf oedd y cyfle i gwrdd â phobl ifanc anhygoel o wledydd ledled Ewrop. O Armenia i Awstria, o’r Almaen i Georgia, roedd yn wych dod i adnabod yr unigolion ysbrydoledig hyn a chlywed eu safbwyntiau ar y prif faterion sy’n wynebu pobl ifanc wledig heddiw. Cawsom hefyd gyfle i arddangos cynnyrch Cymreig yn ystod y noson ryngwladol, lle roedd caws Caerffili yn boblogaidd iawn! Byddwn yn argymell sesiwn astudio Rural Youth Europe i unrhyw un – mae’n gyfle i ddysgu mwy amdanoch eich hun drwy ehangu eich gorwelion ac i ddysgu mwy am y materion sy’n wynebu’r byd ehangach.”
Ychwanegodd Molly Hooper o Presteigne yn Sir Faesyfed:
“Mwynheais yn fawr y profiad o fynychu seminar gwanwyn RYE eleni, a chefais lawer iawn o fudd o’r wythnos. Roedd yn ddiddorol ac yn ysgogi’r meddwl, ac fe roddodd ddealltwriaeth ddyfnach i mi o’r ffordd y mae llythrennedd yn y cyfryngau yn effeithio ar gymunedau gwledig ledled Ewrop, yn enwedig o ran sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.
Y tu hwnt i’r sesiynau eu hunain, un o’r elfennau mwyaf gwerthfawr oedd y cyfle i gwrdd â grŵp mor amrywiol o bobl a dysgu ganddynt. Fe amlygodd hynny’n wirioneddol bŵer dod at ein gilydd, rhannu safbwyntiau, a gweithio ar y cyd tuag at newid cadarnhaol. Roedd yn gyfle gwych i gamu y tu allan i’m hamgylchedd arferol, adeiladu cysylltiadau, a chael mewnwelediadau y byddaf yn eu cario gyda mi i’r dyfodol.
Byddwn yn argymell y profiad yn fawr i unrhyw un sy’n cael y cyfle!”






