Blog yr Aelodau
Ysbryd Cymunedol Cryf wrth i 150 Gymryd Rhan yn Her Cadeirydd CFfI Ceredigion
Ar ddydd Sadwrn y 3ydd o Ebrill daeth 150 o aelodau a ffrindiau CFfI Ceredigion ynghyd i gyflawni Her y Cadeirydd sef cerdded 18 milltir o amgylch ardal Mydroilyn, sef ardal leol y Cadeiryddes Angharad Ann Evans.

Fe wnaethon ni ddal i fyny â Chadeirydd Ceredigion, Angharad, i glywed popeth am y diwrnod…
“Roedd hi’n ddiwrnod bendigedig er gwaethaf ychydig o law yn ystod y bore. Dechreuwyd y daith yn Neuadd Mydroilyn gan droedio ein ffordd lan i Gorsgoch, Dihewyd, Neuadd Lwyd, Pencae cyn gorffen y daith yn Llanarth yn Westy Llanina Arms.”
Pwrpas y daith oedd codi arian ac elusen ddewisol Angharad, sef Ambiwlans Awyr Cymru.
“Rydym yn byw mewn ardal wledig iawn a duw ac ŵyr pwy fydd angen yr Ambiwlans Awyr nesaf mae’n oll bwysig bod ni’n cefnogi’r elusen arbennig yma. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am y gefnogaeth yn arwain fyny i’r daith ac ar ddiwrnod y daith ac roedd yn braf gweld cyfranogwyr o bron pob clwb yn y sir ac ystod eang o oedrannau yn cymryd rhan, rhai yn 7 oed a rhai dros ei 65+. Diolch arbennig i aelodau pwyllgor neuadd Mydroilyn a Dihewyd am adael i ni ddefnyddio’r neuadd ac am y te yn ystod ei’n stop cinio. Diolch arbennig hefyd i nifer o fusnesau lleol am noddi dwr, losin, ffrwythau a hufen ia ar gyfer y daith i gadw’r aelodau i fynd. Diolch arbennig I Westy Llanina am y bwyd blasus ar ddiwedd y daith, yn sicr roedd pawb yn haeddu bwyd ar ôl y daith.”
“Mae swm anhygoel o arian wedi cael ei chodi i elusen a hoffwn ddiolch i bawb am ei haelioni.”








