Newyddion CFfI Cymru
Arddangosfa Anhygoel o Gefnogaeth i Elusen Galar Plant Sandy Bear 💛
Yr wythnos hon, croesawodd Clwb Ffermwyr Ifanc Tiers Cross, Sir Benfro Martin o Elusen Galar Plant Sandy Bear ar gyfer noson addysgiadol a chalonogol. Rhannodd Martin fewnwelediad gwerthfawr i’r gwaith anhygoel y mae Sandy Bear yn ei wneud o fewn y gymuned, gan gefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd wrth iddynt wynebu heriau ynglwm a galar.
Roedd yr ymweliad hefyd yn nodi digwyddiad arbennig iawn, sef cyflwyno siec o ganlyniad i arwerthiant elusennol a gynhaliwyd gan y clwb yn ôl ym mis Tachwedd.
Diolch i haelioni a chefnogaeth aruthrol pawb a fu’n rhan o’r digwyddiad, codwyd swm syfrdanol o £7,720.81 ar y noson. Mae’r aelodau yn ymfalchio yn y swm a godwyd ag yn hynod o ddiolchgar i bawb a roddodd wobrau, a fuodd yn cynnig yn yr ocsiwn, a fynychodd neu a helpodd i drefnu’r digwyddiad. Bu pob cyfraniad yn rhan o sicrhau cyfanswm mor anhygoel.
Bydd yr arian a godwyd yn mynd uniongyrchol tuag helpu Sandy Bear i barhau â gwaith hanfodol, gan sicrhau bod pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael mynediad at yr adnoddau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt yn ystod yr adegau anoddaf.
Dewiswyd Sandy Bear fel yr elusen am reswm personol iawn. Roedd y clwb am fynegi eu gwerthfawrogiad am y gefnogaeth a roddwyd i Glwb Ffermwyr Ifanc Martletwy yn dilyn colled aelod gwerthfawr.
Er na all dim byth wneud yn iawn am golled o’r fath, mae’r ffordd y mae cymuned y CFfI wedi dod ynghyd wedi bod yn hynod deimladwy. Mae’r caredigrwydd, yr haelioni a’r undod a ddangoswyd drwy’r cyfan wedi bod yn atgof pwerus o gryfder ysbryd cymunedol.
Da iawn CFfI Tiers Cross!
#ForSal 💛
